Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 16/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd gydag ymateb gan y Llywodraeth |
|
P-05-1104 Dylid gwneud i unrhyw gamau sy'n cael eu cyflwyno o ran Covid-19 fod yn destun pleidlais yn Senedd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd nad oedd llawer o gamau pellach
y gallai eu cymryd ar hyn o bryd oherwydd mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor
cyn Etholiad y Senedd ac, fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth gan y Prif
Weinidog, mae deddfwriaeth iechyd cyhoeddus yn caniatáu i Lywodraeth Cymru
wneud rheoliadau cyn iddynt gael eu cymeradwyo gan y Senedd. Cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r ymrwymiad a wnaed gan y
Gweinidog i ystyried opsiynau i fynd i'r afael â'r materion a godwyd, cytunodd
i drosglwyddo’r ddeiseb i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn dilyn
Etholiad y Senedd. |
|
P-05-1107 Caniatáu i gantorion / adloniant byw ailddechrau yn yr awyr agored Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. Yng ngoleuni bwriad y Llywodraeth i lacio
cyfyngiadau fesul tipyn yn y cylch adolygu bob tair wythnos, a chan mai hwn
oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn Etholiad y Senedd, cytunodd y Pwyllgor i
gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1110 Dylid adfer nofio am ddim i bensiynwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r ymateb gan y Dirprwy
Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn nodi bod y cynllun Nofio Am
Ddim wedi'i ail-flaenoriaethu yn dilyn adolygiad a gomisiynwyd gan Chwaraeon
Cymru, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1120 Dylai Llywodraeth Cymru atal pob cyfnod o gyfyngiadau symud ar unwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni bwriad
presennol Llywodraeth Cymru i godi cyfyngiadau mewn modd graddol, nododd nad
oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Felly, cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1122 Caniatáu i rieni sydd newydd fabwysiadu ffurfio swigen gefnogaeth yn y cyfyngiadau lefel rhybudd 4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. Yng ngoleuni’r ffaith mai hwn yw cyfarfod
olaf y Pwyllgor hwn, a'r tebygolrwydd y bydd y rheolau ynghylch swigod
cefnogaeth wedi newid erbyn i'r pwyllgor olynol gael ei sefydlu, cytunodd nad
oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1126 Caniatáu chwaraeon wedi'u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed fel bod Cymru'n gweithredu yn unol â'r rheolau haen 4 yn Lloegr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1149 Dylid ailgychwyn chwaraeon tîm i blant yn unol
â Lloegr ar Fawrth 29ain 2021 Ystyriodd y
Pwyllgor y deisebau am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni arwydd Llywodraeth Cymru y
bydd gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu i blant yn gallu ailddechrau o 29
Mawrth, nododd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar
hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr. |
|
P-05-1149 Dylid ailgychwyn chwaraeon tîm i blant yn unol â Lloegr ar Fawrth 29ain 2021. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1126 Caniatáu
chwaraeon wedi'u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed fel
bod Cymru'n gweithredu yn unol â'r rheolau haen 4 yn Lloegr Ystyriodd y
Pwyllgor y deisebau am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni arwydd Llywodraeth Cymru y
bydd gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu i blant yn gallu ailddechrau o 29
Mawrth, nododd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar
hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr. |
|
P-05-1133 Dylid addasu maes llafur hyfforddiant athrawon i gynnwys Hyfforddiant Trawsnewidiol a Deallusrwydd Emosiynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor y
Gweithlu Addysg i dynnu sylw at y ddeiseb a'r wybodaeth a'r cwestiynau pellach
a godwyd gan y deisebydd, a gofyn am ei ymateb i'r cynigion a wnaed. |
|
P-05-1134 Capiwch holl dreth gyngor sir Cymru ar 3 y cant. Rhaid cynnal refferendwm o'r cyhoedd os dymunir mynd dros 3 y cant. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. Yng ngoleuni'r ffaith mai awdurdodau lleol
unigol a chynghorwyr sy’n gyfrifol am osod y dreth gyngor, a bod Llywodraeth
Cymru wedi gwrthod y cynigion a wnaed yn y ddeiseb, daeth y Pwyllgor i'r
casgliad nad oes llawer yn rhagor y gall ei gyflawni ar hyn o bryd, a chytunodd
i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1138 Profion COVID-19 wythnosol ar gyfer staff sy'n gofalu am bobl ag anghenion iechyd meddygol cymhleth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r wybodaeth a ddarparwyd
gan y deisebydd, cytunodd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn am
eglurhad pellach ynghylch darparu profion llif unffordd ar gyfer staff gofal
cymdeithasol sy'n gweithio yn y sector preifat. |
|
P-05-1140 Dylid adolygu'r canllawiau ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim, gan ddileu'r opsiwn ar gyfer dosbarthu parseli bwyd. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y
Gweinidog Addysg i ofyn iddi ystyried a ellir diweddaru'r canllawiau ar gyfer
awdurdodau lleol i nodi'n glir y dylent weithredu nifer o systemau ar gyfer
darparu prydau ysgol am ddim yn gyfochrog, gan gynnwys taliadau arian parod neu
dalebau. |
|
P-05-1142 Cynllun Mynd Allan i Helpu Allan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gyfeirio'r ddeiseb i'w
hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol ar ôl Etholiad y Senedd, o ystyried
pwysigrwydd gweithgareddau corfforol wrth atal problemau iechyd corfforol a
meddyliol. |
|
P-05-1143 Ail-agorwch ysgolion yn llawn ar unwaith ar ôl hanner tymor mis Chwefror Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni dychweliad graddol
presennol disgyblion i ysgolion, nododd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau
pellach y gallai eu cymryd ar y mater ar hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1144 Ailagor canolfannau garddio yng Nghymru cyn gynted â phosibl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd pa mor gryf oedd y teimladau a
fynegwyd gan y ddeiseb. Fodd bynnag, yng ngoleuni cyhoeddiad diweddar
Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu caniatáu i ganolfannau garddio ailagor o 22
Mawrth, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1145 Caniatewch i rieni plant ifanc yrru i ddefnyddio parciau a meysydd chwarae lleol yn ystod y cyfyngiadau symud haen 4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd fod teithio i barciau a meysydd
chwarae lleol bellach yn cael ei ganiatáu o ganlyniad i’r canllawiau diweddar i
'aros yn lleol'. Gan fod nodau'r deisebau wedi'u cyflawni, cytunodd y Pwyllgor
i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1146 Dylid darparu map trywydd ar gyfer sut y gall priodasau gael eu cynnal yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor
cyn Etholiad y Senedd 2021, yr adolygiad o’r cyfyngiadau bob tair wythnos a'r
ffaith bod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Grŵp Rhanddeiliaid Priodasau, daeth y
Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer rhagor y gallai ei gyflawni ar hyn o
bryd, a chytunwyd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1147 Dylid ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ddarparu addysg fyw/addysg wedi'i recordio bob dydd i bob disgybl nad yw'n dychwelyd i'r ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ddarparu gohebiaeth bellach y
deisebydd i'r Gweinidog Addysg a, gyda chytundeb y deisebydd, manylion ysgolion
nad ydynt yn darparu unrhyw wersi byw neu rai wedi'u recordio, a gofyn i'r
Gweinidog ystyried pa opsiynau sydd ar gael ar gyfer codi'r mater hwn ymhellach
gyda'r ysgol neu'r awdurdod addysg lleol dan sylw. |
|
P-05-1103 Rhowch derfyn ar gymhwyso'r un cyfyngiadau Covid-19 ar draws Cymru gyfan Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio mai hwn yw cyfarfod olaf y
Pwyllgor cyn etholiadau’r Senedd a’r tebygolrwydd y bydd amgylchiadau’n parhau
i newid erbyn i’w bwyllgor olynol gael ei sefydlu, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1141 Dylid gwneud Etholiad y Senedd yn deg - caniatáu danfon taflenni gwleidyddol dan gyfyngiadau symud Dogfennau ategol: Cofnodion: Datganodd Neil
McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'r heddlu wedi
ceisio rhoi rhybudd a dirwy iddo am ddosbarthu taflenni. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd y
cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar 12 Mawrth y gellir ailddechrau
dosbarthu taflenni'n lleol, yn dilyn y newid yn y cyngor i 'aros yn lleol'. Yng
ngoleuni hyn, ac oherwydd mai hwn yw cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn yr Etholiad,
cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1148 Agorwch ysgolion yn llawn i bob oedran yng Nghymru fel y cam nesaf o 15 Mawrth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor
y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r ffaith bod y ddeiseb hon wedi'i
chodi gyda'r Llywodraeth a bod disgwyl i'r holl ddisgyblion fod yn ôl yn yr
ysgol o 12 Ebrill ymlaen, cytunodd nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu
cymryd, ac y byddai'n diolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
P-05-1150 Rhowch wyliau ardrethi busnes i safleoedd cartrefi gwyliau yng Nghymru, fel yn Lloegr Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd, fel y
gellir dweud hyn wrth y deisebydd ac ystyried y ddeiseb ymhellach yn nhymor
nesaf y Senedd. |
|
P-05-1151 Dylid pennu dyddiad ar gyfer ailddechrau gweithgareddau wedi'u trefnu ar gyfer babanod a phlant bach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd ac eglurder pellach ynghylch pryd y bydd
dosbarthiadau babanod a phlant bach yn gallu ailddechrau, fel y gellir dweud
hyn wrth y deisebydd ac ystyried y ddeiseb ymhellach yn nhymor nesaf y Senedd. |
|
P-05-1152 Caewch yr ysgolion! Cadwch ein plant yn ddiogel. Oherwydd y cynnydd mewn COVID-19. Achubwch ein dyfodol Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd y
camau yr oedd y ddeiseb yn galw amdanynt, a hynny ym mis Rhagfyr 2020. Yng
ngoleuni hyn, a'r diffyg cyswllt gan y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb. |
|
P-05-1153 Dylid agor campfeydd awyr agored a chaniatáu chwaraeon awyr agored yng Nghymru yn yr un modd ag yn Lloegr ar 29 Mawrth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd ac eglurder pellach ynghylch pryd y mae’n
ystyried y gall campfeydd a chwaraeon i blant ailddechrau, fel y gellir dweud
hyn wrth y deisebydd. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r
deisebydd a chau'r ddeiseb o ystyried y tebygolrwydd y bydd y sefyllfa wedi
newid erbyn i bwyllgor newydd gael ei sefydlu ar ôl Etholiad y Senedd. |
|
P-05-1154 Dylid ailagor y sector lletygarwch yng Nghymru erbyn 12 Ebrill 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd ac eglurder pellach ynghylch pryd y mae’n
ystyried y gall busnesau yn y diwydiant lletygarwch ailddechrau, fel y gellir
dweud hyn wrth y deisebydd ac ystyried y ddeiseb ymhellach yn nhymor nesaf y
Senedd. |
|
P-05-1155 Caniatáu chwaraeon dŵr diogel, gan gadw pellter cymdeithasol, yn ystod cyfnodau clo y coronafeirws Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd, fel y gellir dweud hyn wrth y deisebydd.
Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb
o ystyried y tebygolrwydd y bydd y sefyllfa wedi newid erbyn i bwyllgor newydd
gael ei sefydlu ar ôl Etholiad y Senedd. |
|
P-05-1156 Dylid cyfateb y cyllid ar gyfer busnesau bach yn ystod y cyfyngiadau symud gyda Lloegr - gan gynnwys y grant ailgychwyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd, fel y gellir dweud hyn wrth y deisebydd ac
ystyried y ddeiseb ymhellach yn nhymor nesaf y Senedd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-915
Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn
bach yng Nghymru a P-05-939
Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar
geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu
gorfodi. Nododd y Pwyllgor
y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag
Anifeiliaid) (Cymru) 2021 a gynigiwyd ar gyfer cytuno arnynt gan y Senedd ar 23
Mawrth, a chytunwyd i drosglwyddo’r deisebau i'w hystyried ymhellach gan ei
bwyllgor olynol yn nhymor nesaf y Senedd. |
|
P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-856
Rhaid gwahardd gwerthu cŵn
bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng
Nghymru a P-05-939
Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar
geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu
gorfodi. Nododd y Pwyllgor
y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag
Anifeiliaid) (Cymru) 2021 a gynigiwyd ar gyfer cytuno arnynt gan y Senedd ar 23
Mawrth, a chytunwyd i drosglwyddo’r deisebau i'w hystyried ymhellach gan ei
bwyllgor olynol yn nhymor nesaf y Senedd. |
|
P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-856
Rhaid gwahardd gwerthu cŵn
bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng
Nghymru a P-05-915
Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn
bach yng Nghymru. Nododd y Pwyllgor
y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag
Anifeiliaid) (Cymru) 2021 a gynigiwyd ar gyfer cytuno arnynt gan y Senedd ar 23
Mawrth, a chytunwyd i drosglwyddo’r deisebau i'w hystyried ymhellach gan ei
bwyllgor olynol yn nhymor nesaf y Senedd. |
|
P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ddiweddariad gan y Gweinidog ac awydd y deisebydd i ddarparu
gwybodaeth bellach yn y dyfodol, a chytunodd i drosglwyddo’r ddeiseb i'w
hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn nhymor nesaf y Senedd. |
|
P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol. O ystyried mai hwn yw cyfarfod olaf y Pwyllgor
cyn Etholiad y Senedd, a’r ymgynghoriad cyhoeddus sydd i fod i gael ei gynnal
ar y cais trwyddedu morol, cytunodd i drosglwyddo’r wybodaeth bellach a ddaeth
i law i’w hystyried gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ac i ofyn i’w bwyllgor olynol
ystyried y ddeiseb ymhellach yng ngoleuni'r sefyllfa ar ôl Etholiad y Senedd. |
|
P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Leanne
Wood y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'r Deisebydd
yn hysbys iddi, ac mae hi wedi bod yn rhan o'r ymgyrch. Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i drosglwyddo’r ddeiseb i'w
hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol yn y Senedd nesaf yng ngoleuni'r
sefyllfa bryd hynny, gan gynnwys mewn perthynas â chyhoeddi adroddiadau Adran
19. |
|
P-05-1079 Dylid diogelu Gwarchodfa Natur Cynffig gan ddefnyddio pwerau prynu gorfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ymatebion pellach a ddaeth i law a boddhad Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r
camau a gymerwyd i sefydlu Cytundeb Rheoli, a phenodi Rheolwr y Warchodfa yn
ddiweddar. O ystyried hyn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad yw'n ymddangos bod
prynu gorfodol yn ddatrysiad priodol ar hyn o bryd, a chytunodd i ddiolch i'r
deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i gyfeirio'r ddeiseb at y Senedd
nesaf a gofyn i'w bwyllgor olynol ystyried yr alwad i wahardd defnyddio cewyll
adar hela a'r adolygiad o'r Cod Ymarfer er Lles Adar Hela yn y cyd-destun bryd
hynny. |
|
P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws Dogfennau ategol:
Cofnodion: Mynegodd y
Pwyllgor ei siom nad yw'r Llywodraeth wedi cytuno i sefydlu cynllun o'r math a
gynigiwyd gan y ddeiseb. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad, gyda gofid, nad oedd
llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd i symud y ddeiseb yn ei blaen yng
ngoleuni'r ymatebion a gafwyd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, a diolch
i'r deisebydd am godi’r mater. |
|
P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ymateb pellach a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a nododd fod y Llywodraeth wedi gofyn i Fyrddau Iechyd ac
Ymddiriedolaethau ystyried amgylchiadau unigol gweithwyr cronfa’r GIG yn y
sefyllfa hon. Yn sgîl hyn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer o
gamau eraill y gallai eu cymryd ar hyn o bryd, a chytunodd i gau'r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1029 Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno profion gorfodol ar yr holl deithwyr sy’n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog, y sefyllfa sydd wedi newid ers cyflwyno'r
ddeiseb a'r gofynion presennol i bobl sy'n cyrraedd Cymru ymgymryd â chyfnod o
hunan-ynysu a phrofion wrth gyrraedd. Gan nad oes llawer pellach y gall y
Pwyllgor ei wneud, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1116 Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd y blaenoriaethu cynyddol a roddir yn awr i
bobl ag anabledd dysgu yn y rhaglen frechu yn erbyn Covid-19. Yng ngoleuni hyn,
cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd a chau’r ddeiseb. |
|
P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth
Cymru i rannu'r profiadau pellach a ddarparwyd gan y deisebydd, ac i ofyn am
roi ystyriaeth bellach i ddarparu rhagor o gefnogaeth benodol i'r sector
cerddoriaeth fyw, o ystyried y tebygolrwydd na fydd digwyddiadau cerddorol yn
gallu ailddechrau yn y dyfodol agos. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i aros am ymateb
y Llywodraeth i'r adroddiad ar y mater hwn a luniwyd gan y Pwyllgor Diwylliant,
y Gymraeg a Chyfathrebu. |
|
P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion
pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru. Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y deisebau, a chytunodd i drosglwyddo'r deisebau i'w
bwyllgor olynol yn dilyn Etholiad y Senedd, i'w alluogi i barhau i graffu ar
ddatblygiad adnoddau addysgu newydd ac anghenion dysgu proffesiynol. |
|
P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu
gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb. Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y deisebau, a chytunodd i drosglwyddo'r deisebau i'w
bwyllgor olynol yn dilyn Etholiad y Senedd, i'w alluogi i barhau i graffu ar
ddatblygiad adnoddau addysgu newydd ac anghenion dysgu proffesiynol. |
|
P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil
McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi
ymgyrchu'n helaeth ar y mater hwn. Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'i hymrwymiad i
ddarparu rhagor o fanylion am gynnig cyllid pan fydd hwn ar gael. Gan mai hwn
yw cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn Etholiad y Senedd 2021, cytunodd i
drosglwyddo’r ddeiseb i'w hystyried ymhellach yn nhymor nesaf y Senedd. |
|
P-05-943 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau gwelliannau i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a
nododd y gwaith diogelwch sydd wedi'i wneud ar y ffordd ers cyflwyno'r ddeiseb,
gan gynnwys terfyn cyflymder newydd o 40mya. Yng ngoleuni sicrwydd y Gweinidog
y parheir i fonitro cydymffurfiad â'r terfyn cyflymder newydd a'r angen am
ragor o welliannau diogelwch, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim rhagor y
gall ei gyflawni ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd a
chau’r ddeiseb. |
|
P-05-1061 Rhowch gefnogaeth ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, ar sail boddhad y deisebydd bod y
Llywodraeth wedi cyfarwyddo cynghorau i dalu'r grant dewisol i fusnesau o'r
math hwn, cytunodd i longyfarch y deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
Adolygiad o’r deisebau sy'n cael eu hystyried Dogfennau ategol: Cofnodion: Adolygodd y
Pwyllgor restr o'r deisebau eraill sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Yn
unol â'i arwydd blaenorol y byddai'n trosglwyddo nifer gyfyngedig o ddeisebau
i'w hystyried ymhellach gan ei bwyllgor olynol ar ôl Etholiad y Senedd,
cytunodd ar y camau arfaethedig ar y deisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd
a amlinellir yn y papur a ddarparwyd. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: Cafodd y papurau
eu nodi. |
|
P-05-957 Gorsaf yn Sanclêr - Cefnogwch y cais am orsaf drenau yn Sanclêr Dogfennau ategol: |
|
P-05-1017 Caniatáu i ddisgyblion wisgo mygydau ym mhob rhan o safle'r ysgol Dogfennau ategol: |
|
P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol Dogfennau ategol: |
|
P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu Dogfennau ategol: |
|
P-05-1077 Peidiwch â newid ffin bleidleisio de Ystrad Mynach Dogfennau ategol: |
|
P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny. Dogfennau ategol: |
|
Sylwadau'r Cadeirydd i gloi I gydnabod diwedd
cyfarfod olaf y Pwyllgor, nododd y Cadeirydd ei fod wedi ystyried 473 o
ddeisebau newydd gyda chyfanswm o fwy na miliwn o lofnodion yn ystod tymor y
Senedd hon, ac y byddai adroddiad gwaddol ar ei waith yn cael ei gyhoeddi cyn
bo hir. Diolchodd y
Cadeirydd i bawb sydd wedi cyflwyno deisebau a’u llofnodi, wedi darparu
tystiolaeth ysgrifenedig neu dystiolaeth lafar i'r Pwyllgor, y staff sydd
wedi'i gefnogi, a holl Aelodau'r Pwyllgor yn ystod yr amser hwn. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Adroddiad Gwaddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ei adroddiad gwaddol, a chytunodd i wneud nifer o argymhellion i'w
hystyried gan ei bwyllgor olynol yn y Senedd nesaf. |