P-05-1079 Dylid diogelu Gwarchodfa Natur Cynffig gan ddefnyddio pwerau prynu gorfodol
P-05-1079 Dylid diogelu Gwarchodfa Natur Cynffig gan ddefnyddio pwerau
prynu gorfodol
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Steven Preddy, ar ôl casglu cyfanswm o 8,435 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
un o’r gwarchodfeydd natur gorau yng Nghymru o dan fygythiad.
Mae
angen rheoli’r cynefinoedd twyni tywod o bwysigrwydd rhyngwladol yng Nghynffig,
neu fel arall byddant yn colli eu gwerth eithriadol. Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
oedd yn gwneud y gwaith hwn ers blynyddoedd lawer, ond bu’n rhaid iddo roi’r
gorau i’r gwaith oherwydd pwysau ariannol.
Nid
yw perchennog y safle, sef corff cyfrinachol ac anatebol o’r enw Corfforaeth
Cynffig, wedi bod yn barod i gytuno ar unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Efallai mai prynu gorfodol yw’r unig ddewis sydd ar ôl.
Gwybodaeth Ychwanegol
Caiff
twyni tywod Cynffig eu cydnabod fel Ardal Cadwraeth Arbennig, sef dynodiad
cadwraeth natur uchaf Ewrop.
Mae gan
Gorfforaeth Cynffig statws elusennol, ac felly mae’n ofynnol iddo, yn ôl y
gyfraith, wneud penderfyniadau er budd y cyhoedd. Bu Cyfoeth Naturiol Cymru,
sef asiantaeth cadwraeth natur gyhoeddus y wlad, yn ceisio trafod gyda’r
gorfforaeth i sicrhau dyfodol y safle, ond mae’r trafodaethau hyn wedi cyrraedd
pwynt amhosibl ei ddatrys. Nid fu’r Gorfforaeth yn barod i gytuno i unrhyw un
o’r opsiynau a ginigwyd, er nid yw’n eglur pam. Mae’n bryd i’r penderfyniad
gael ei gymryd allan o’u dwylo.
Mewn
achosion eithriadol, pan fydd budd amlwg i’r cyhoedd, mae gan
Lywodraeth
Cymru y grym i brynu’n orfodol er mwyn amddiffyn safle fel Cynffig. Nid oes yn
rhaid i orchymyn prynu gorfodol fod yn gostus: nid oes gwerth masnachol i’r
safle, ac felly nid oes dim rheswm pam na all Corfforaeth Cynffig ei werthu i
Lywodraeth Cymru am swm enwol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor
yr ymatebion pellach a ddaeth i law a boddhad Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r
camau a gymerwyd i sefydlu Cytundeb Rheoli, a phenodi Rheolwr y Warchodfa yn
ddiweddar. O ystyried hyn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad yw'n ymddangos bod
prynu gorfodol yn ddatrysiad priodol ar hyn o bryd, a chytunodd i ddiolch i'r
deisebydd a chau'r ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/01/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyrain Casnewydd
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2020