P-05-1151 Dylid pennu dyddiad ar gyfer ailddechrau gweithgareddau wedi'u trefnu ar gyfer babanod a phlant bach
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Kate Worgan, Tots Play Cardiff North, ar ôl casglu cyfanswm o 1,756 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rhwng
mis Medi a mis Rhagfyr 2020, roeddem wedi gallu cynnal dosbarthiadau wyneb yn
wyneb y tu mewn, gan ddilyn deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i’r llythyren.
Ni
chawsom unrhyw achosion o’r feirws yn y dosbarthiadau ac roeddem yn hynod
ddiwyd a rhagweithiol o ran creu amgylchedd diogel i ddosbarthiadau, tra hefyd
yn darparu’r holl fuddiannau y gall dosbarthiadau eu cynnig i rieni a gofalwyr,
a'u plant ifanc.
Rydym
yn dal i gynnal dosbarthiadau ar-lein ond mae angen dyddiad arnom i allu dod â
dosbarthiadau wyneb yn wyneb yn ôl.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Yn
aml, mae plant ifanc wedi cael eu hanwybyddu yn y pandemig hwn, yn yr un modd
â’u rhieni.
Mae
wedi bod yn gryn bryder i ni bod rhieni wedi’u hynysu, ac effaith hynny ar eu
hiechyd meddwl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Gyda
theuluoedd yn byw ymhellach oddi wrth ei gilydd, agwedd hanfodol ar feithrin
rhwydwaith cymorth yw gallu cwrdd â rhieni eraill â phlant ifanc, mewn
amgylchedd diogel a chroesawgar.
Bu
cyfle i wneud hynny mewn dosbarthiadau babanod ar-lein, ond gall ceisio
ymgysylltu â phobl nad ydych wedi cwrdd â nhw eto fod yn anodd.
Mae
plant ifanc nad ydyn nhw'n mynd i feithrinfa breifat wedi colli’r cyfle, a'r
holl fuddiannau a ddaw o gymdeithasu â babanod a phlant, sy'n rhan enfawr o'u
datblygiad.
Maen
nhw hefyd wedi colli'r cyfle i archwilio gweithgareddau datblygu a bod ar eu
hennill yn sgil hynny, ynghyd â gweithgareddau sy'n hybu’r broses o fondio
rhwng rhiant a phlentyn.
Mae
gwir angen i rieni allu ailddechrau ein dosbarthiadau’n ddiogel.
At
hynny, mae angen hyn arnom ni fel sector, er mwyn i'n busnesau barhau i fod yn
hyfyw.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/07/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gan fod y camau yr oedd y ddeiseb yn galw amdanynt yn
cael eu rhoi ar waith, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r
deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/03/2021