P-05-1146 Dylid darparu map trywydd ar gyfer sut y gall priodasau gael eu cynnal yng Nghymru
P-05-1146 Dylid darparu map trywydd ar gyfer sut y gall
priodasau gael eu cynnal yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Sara Robinson, ar ôl casglu cyfanswm o 1,273 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Dywedodd
Prif Weinidog y DU y dylai priodasau ddechrau cael eu cynnal yn y ffordd
arferol ar ôl y Pasg, ond nid oes dim arweiniad wedi’i roi yng Nghymru yn hyn o
beth.
Mae’n
bwysig i’r economi bod priodasau’n cael eu cynnal unwaith yn rhagor, a hynny
gan gynnwys brecwastau priodas. Gan fod priodasau yn cymryd misoedd i’w trefnu,
fodd bynnag, mae angen i gyplau a busnesau sy’n ymwneud â’r sector priodasau
gael arweiniad clir o ran sut y disgwylir i briodasau gael eu cynnal dros y
misoedd nesaf.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Yn 2017
cynhaliwyd oddeutu 13,197 o briodasau (yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau
Cenedlaethol). Mae 95% o gyplau wedi gohirio eu priodasau, gyda llawer o’r
rhain wedi’u trefnu ar gyfer eleni, ar ben y rhai a oedd wedi bwriadu priodi
eleni. (Tasglu priodasau y DU).
Felly mae’n
bwysig darparu arweiniad clir cyn gynted ag sy’n bosibl i helpu i hybu’r
economi drwy ganiatáu i briodasau gynnwys brecwastau priodas.
Dylai hyn gynnwys nodi niferoedd, a gaiff eu pennu
yn ôl gallu’r lleoliad, gan ystyried gofynion cadw pellter cymdeithasol a chan
gynnwys profi torfol ar gyfer yr holl westeion cyn dod i’r briodas /digwyddiad.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Sir Drefaldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/03/2021