P-05-1122 Caniatáu i rieni sydd newydd fabwysiadu ffurfio swigen gefnogaeth yn y cyfyngiadau lefel rhybudd 4

P-05-1122 Caniatáu i rieni sydd newydd fabwysiadu ffurfio swigen gefnogaeth yn y cyfyngiadau lefel rhybudd 4

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1122 Caniatáu i rieni sydd newydd fabwysiadu ffurfio swigen gefnogaeth yn y cyfyngiadau lefel rhybudd 4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ruby Hampton, ar ôl casglu cyfanswm o 387 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Caniatáu i rieni sydd newydd fabwysiadu ffurfio swigen gefnogaeth os bydd rheol o’r fath yn cael ei chyflwyno ar gyfer rhieni newydd sydd â phlant o dan un oed.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Rwyf newydd weld deiseb yn galw am ganiatáu i rieni plant o dan un oed ffurfio swigen gefnogaeth. Mae'r ddeiseb yn nodi'n benodol 'Mamau sydd wedi rhoi genedigaeth yn 2020' oherwydd cydnabyddir bod bod yn fam newydd yn anodd hyd yn oed o dan amgylchiadau arferol. Byddai'r rheol newydd hon yr un fath â'r rheol sydd ar waith ar hyn o bryd ledled Lloegr.

 

Yn anffodus, nid yw’n cynnwys rhieni sydd newydd fabwysiadu a allai fod yn hynod newydd i’r profiad o fod yn rhiant ond sydd â phlant dros un oed. Mae mabwysiadu babi o dan un yn anghyffredin iawn gan fod bron pob plentyn yn y system ofal am dros 12 mis erbyn iddo gael ei leoli gyda'i deulu parhaol. Mae mabwysiadu yn broses anodd ac ar ddechrau lleoliad mae'n hanfodol bod rhieni plant a fabwysiadwyd yn cael cefnogaeth anwyliaid i hwyluso'r broses o bontio i fod yn rhiant wrth ddatblygu perthynas â phlentyn newydd.

 

A picture containing person, outdoor

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. Yng ngoleuni’r ffaith mai hwn yw cyfarfod olaf y Pwyllgor hwn, a'r tebygolrwydd y bydd y rheolau ynghylch swigod cefnogaeth wedi newid erbyn i'r pwyllgor olynol gael ei sefydlu, cytunodd nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • De Caerdydd a Phenarth
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/03/2021