P-05-1061 Rhowch gefnogaeth ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes
P-05-1061 Rhowch gefnogaeth
ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ryan Lee, ar ôl casglu cyfanswm o 2,144
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae'r grantiau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer busnesau mewn ardaloedd
cyfyngiadau lleol neu yn grantiau datblygu busnes. Mae nifer o fusnesau Lletya
Anifeiliaid Anwes y tu allan i ardaloedd cyfyngiadau lleol wedi sylwi bod nifer
y cwsmeriaid wedi lleihau i ddim. Ni ellir defnyddio'r Grantiau Datblygu Busnes
i dalu biliau misol. Mae angen cymorth ariannol ar fusnesau lletya anifeiliaid
anwes nawr i'w hatal rhag mynd i’r wal. Mae cannoedd o swyddi a chartrefi mewn
perygl heb gefnogaeth ariannol ddigonol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae busnesau lletya anifeiliaid anwes wedi ymdrechu i gadw'r drysau’n
agored i helpu staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio oriau hir wrth frwydro i
ymdrin â Covid-19, ac maent wedi helpu i ofalu am anifeiliaid anwes pobl sydd
wedi bod yn yr ysbyty. Mewn llawer o achosion, mae cael un neu ddau anifail
anwes i ofalu amdanynt ar y tro yn costio rhagor iddynt nag y maent yn ei
ennill, a chyda rhagor o filiau gwresogi a goleuo dros fisoedd y gaeaf bydd
llawer o’r busnesau yn cael eu gorfodi i gau, ac yna ni fydd y gwasanaeth
hanfodol hwn ar gael.
Mae'r rhain yn fusnesau a oedd yn llwyddiannus cyn Covid-19 a byddant yn
llwyddiannus eto, cyhyd ag y caiff rhywbeth ei wneud i'w diogelu.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/12/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Preseli Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/11/2020