P-05-1134 Capiwch holl dreth gyngor sir Cymru ar 3 y cant. Rhaid cynnal refferendwm o'r cyhoedd os dymunir mynd dros 3 y cant
P-05-1134 Capiwch holl dreth gyngor sir Cymru ar 3 y
cant. Rhaid cynnal refferendwm o’r cyhoedd os dymunir mynd dros 3 y cant
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Gerald Newton Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 524 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Dwi
wedi bod yn byw yn Sir Conwy y rhan fwyaf o fy mywyd, cefais fy ngeni yn y
Rhyl, o rieni o Gymru, ac erbyn hyn dwi wedi ymddeol ac fel pawb arall rydym
wedi gorfod dioddef cynnydd o 14.5 y cant yn y dreth gyngor yn ystod y dwy
flynedd ddiwethaf. Rydym ar fin cyrraedd sefyllfa lle y bydd yn rhaid i bobl
sy'n byw yng Nghymru naill ai leihau maint eu cartrefi neu symud i Loegr lle
mae capio ar dreth o’r fath yn parhau i fod mewn grym. Bydd hyn, ynghyd â
Llywodraeth Cymru a fydd yn rheoli 50 y cant o’n treth incwm cyn bo hir, yn
gyrru pobl a busnesau allan o Gymru.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae'r
dreth gyngor ar gyfer 2 o bensiynwr sy'n byw gyda'i gilydd mewn eiddo safonol y
gwnaethon nhw ei adeiladu eu hunain bellach yn dileu dros 1/6 o gyfanswm incwm
eu pensiynau. Yna, ar hyn o bryd mae £1000 o gyfanswm incwm eu pensiwn yn cael
ei drethu ymhellach ar gyfradd o 20 y cant.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Clwyd
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/03/2021