P-05-1133 Dylid addasu maes llafur hyfforddiant athrawon i gynnwys Hyfforddiant Trawsnewidiol a Deallusrwydd Emosiynol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Tracey Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 193 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
arolwg wedi darganfod fod hyd at 33.6% o athrawon yn dweud eu bod yn bwriadu
gadael y proffesiwn. Ar hyn o bryd, rydym yn colli 42% o Athrawon Newydd
Gymhwyso o fewn 2 flynedd oherwydd y llwyth gwaith a’r gorflinder. Bydd
ychwanegu'r pynciau hyn at y maes llafur yn rhoi set sgiliau newydd i athrawon
i’w helpu gyda'r pwysau ar hyn o bryd, a bydd y pynciau hyn yn galluogi ein
cenhedlaeth nesaf o blant i ddatblygu gwydnwch a deall eu hemosiynau yn well.
Mae niwrowyddoniaeth yn esblygu ac mae tystiolaeth yn dangos bod angen cryn newid.
Bydd hyn yn cael cryn effaith ar iechyd meddwl ein cenhedlaeth nesaf o blant ac
addysgwyr.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
peidio â chynnig addysg am ein systemau mewnol a’r proses o feddwl yn achosi
mwy o iechyd meddwl gwael. Wrth i amseroedd newid, rhaid i ni addasu. Fel
cyn-athro, rwy’n deall y pwysau sydd ar y system. Bydd dysgu sgiliau cryf o ran
deallusrwydd emosiynol, sgiliau meddal 'Alcemi Iaith' a hyfforddiant
trawsnewidiol nid yn unig yn galluogi'r athrawon i reoli straen y rôl, ond
hefyd yn helpu wrth feithrin cadernid meddwl. Yna, gallant drosglwyddo'r
sgiliau hyn i ddisgyblion, gan greu diwylliant newydd o hunanymwybyddiaeth.
Byddant
yn deall:
*Effaith
iaith ar y corff a’r technegau cwestiynu treiddgar a fydd yn caniatáu iddynt
hunan-hyfforddi trwy gyfnodau o bwysau, a dysgu ein plant sut i hunan-hyfforddi
*Cael
gwared ar batrymau iaith negyddol
*Deall
beth sydd wrth wraidd ein harferion
*Ailfeddwl
am eu deialog fewnol: patrymau meddwl strategol a rhyddhau emosiynau negyddol
*Hyfforddi
eraill yn ystod cyfnodau tyngedfennol ac adegau isel: gan osgoi cynhyrfu’r
dyfroedd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 01/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi nodi sut y mae'n
ceisio cefnogi gweithwyr addysg proffesiynol yn ystod y cyfnod tra heriol hwn,
felly cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor
o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Llanelli
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/03/2021