P-05-1029 Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno profion gorfodol ar yr holl deithwyr sy'n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd
P-05-1029 Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno profion
gorfodol ar yr holl deithwyr sy’n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Lawrence Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 184 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Oherwydd
y coronafeirws, mae’n ofynnol ar hyn o bryd i deithwyr fynd i gwarantîn wrth
gyrraedd Maes Awyr Caerdydd o restr o wledydd Ewropeaidd a rhyngwladol.
Mae
hyn wedi arwain at ostyngiad yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r Maes Awyr i
fynd allan o’r wlad ac i ddod i mewn iddi, at golli refeniw i gwmnïau hedfan
sy’n cefnogi ein Maes Awyr cenedlaethol, a cholli refeniw i Faes Awyr Caerdydd
Cyf, a diffyg hyder yn y diwydiant twristiaeth oherwydd bod angen i deithwyr
fynd i gwarantîn ar ôl dychwelyd o wledydd penodol.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Gweithredir Maes Awyr Caerdydd gan gwmni hyd
braich o Lywodraeth Cymru, sydd wedi buddsoddi’n sylweddol yn y Maes Awyr a’i
gyfleusterau / staff.
Os caniateir i sefyllfa bresennol cwarantîn
gorfodol barhau bydd dirywiad trychinebus yn nifer y teithwyr yn arwain at
golledion ariannol sylweddol i bawb dan sylw, sef, y Maes Awyr, y cwmnïau
hedfan a’r teithwyr y mae’n rhaid iddynt, mewn llawer o achosion, benderfynu a
ddylent roi’r gorau i’w cynlluniau teithio, y talwyd amdanynt eisoes, oherwydd
y cyfyngiadau cwarantîn pan fyddant yn dychwelyd adref. Mae llawer o wledydd
ledled y byd eisoes yn gweithredu’n llwyddiannus system profion dau gam ar
deithwyr wrth iddynt gyrraedd eu tiriogaeth a phrofi eto bum niwrnod yn
ddiweddarach. Dylid cyflwyno hyn ym Maes Awyr Caerdydd i dawelu meddwl y
cyhoedd sy’n teithio y gall eu hediad / gwyliau fynd ymlaen heb ragor o
ansicrwydd, pryder a cholli arian a dalwyd. Byddai hyn hefyd yn dod â rhywfaint
o sicrwydd unwaith yn rhagor i’r cwmnïau hedfan hynny sydd eisoes wedi
buddsoddi ym Maes Awyr Caerdydd, a helpu i gadw eu gwasanaethau ar gyfer y
dyfodol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog, y sefyllfa sydd wedi newid ers cyflwyno'r
ddeiseb a'r gofynion presennol i bobl sy'n cyrraedd Cymru ymgymryd â chyfnod o
hunan-ynysu a phrofion wrth gyrraedd. Gan nad oes llawer pellach y gall y
Pwyllgor ei wneud, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/12/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/11/2020