P-05-943 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau gwelliannau i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog
P-05-943 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau
brys i sicrhau gwelliannau i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Carron Jones a Sioned Wyn Williams, ar ôl casglu 2,595 o lofnodion ar-lein a
2,855 ar bapur, sef cyfanswm o 5,450 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd camau
brys i sicrhau fod gwelliannau pendant yn cael eu gwneud i'r A487 rhwng
Gellilydan a Maentwrog yn dilyn y damweiniau trist a thorcalonnus sydd wedi
digwydd yno yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr fod newid
pendant yn cael ei wneud i'r ffordd rhag i drychinebau o'r fath ddigwydd eto.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/03/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyfor Meirionnydd
- Canolbarth a Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2020