P-05-1144 Ailagor canolfannau garddio yng Nghymru cyn gynted â phosibl
P-05-1144 Ailagor canolfannau garddio yng Nghymru cyn
gynted â phosibl
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Nicola Pugh, ar ôl casglu cyfanswm o 11,217 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Dylid
ailagor canolfannau garddio yng Nghymru cyn gynted â phosibl:
-
Mae garddio’n cadw pobl gartref
-
Mae garddio’n llesol iawn i’r meddwl a’r corff
-
Mae canolfannau garddio’n fannau mawr sydd â llawer o awyr iach, ac mae
ganddynt fesurau diogelwch rhagorol
-
Ni ellir diffodd y gadwyn gyflenwi planhigion, a’i throi ymlaen eto. Mewn
llawer o achosion, mae planhigion yn cael eu gwastraffu os na allant gyrraedd
canolfannau garddio
-
Nid siopa ar-lein, clicio a chasglu a danfon i’r cartref yw’r ateb. Mae hyn yn
arbennig o anodd ar gyfer canolfannau garddio annibynnol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd pa mor gryf oedd y teimladau a
fynegwyd gan y ddeiseb. Fodd bynnag, yng ngoleuni cyhoeddiad diweddar
Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu caniatáu i ganolfannau garddio ailagor o 22
Mawrth, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2021