P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu

P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu

Wedi'i gwblhau

 

P-05-882 - Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sarah Wydall, ar ôl casglu cyfanswm o 125 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

• godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, sefydliadau'r trydydd sector ac asiantaethau statudol o nifer y menywod a'r dynion hŷn yng Nghymru sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig gan aelodau'r teulu, a

• sicrhau bod lefelau hanfodol o gefnogaeth a diogelwch ar gael i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth o'r fath.

 

Camdriniaeth ddomestig yn ddiweddarach mewn bywyd: 'Diystyru, anweledig ac anwybyddu'

 

Mae diffiniad y DU gyfan o gamdriniaeth ddomestig, ni waeth beth yw oedran yr unigolyn, fel a ganlyn: 'Any incident or pattern of incidents of controlling, coercive or threatening behaviour, violence or abuse between those aged 16 or over, who are or have been intimate partners or family members regardless of gender or sexuality. This can encompass but is not limited to the following types of abuse - psychological, physical, sexual, financial, emotional and as a result of neglect'.

 

Amcangyfrifir bod cyfanswm nifer y bobl hŷn yng Nghymru sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig yn 40,000. Yn aml, mae camdriniaeth ddomestig pobl 60 oed neu hŷn, sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain, yn ffenomen sydd wedi'i chamddeall, sy'n cael ei hanwybyddu ac nad yw'n cael ei chydnabod, sydd ag effeithiau eang ar eu bywydau. Yn aml, ni ddefnyddir delweddau o bobl hŷn mewn ymgyrchoedd cyhoeddus ynghylch camdriniaeth ddomestig. Mae'n anodd i ddynion a menywod hŷn nodi eu hunain fel dioddefwyr posibl o gamdriniaeth ddomestig.

 

Mae'r mater wedi'i esgeuluso mewn polisi ac arfer o'i gymharu â grwpiau oedran eraill.

 

• Nid oedd yr Arolwg Trosedd ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnwys ystadegau ynghylch camdriniaeth ddomestig ar gyfer y rheini dros 59 oed, hyd at fis Ebrill 2017, pan gynyddwyd y terfyn oedran ar gyfer y sawl sy'n cymryd rhan yn yr arolwg i 74 oed (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2017) .

• Mae pobl hŷn â dementia mewn perygl uwch o gamdriniaeth oherwydd eu gallu diffygiol i geisio cymorth, eiriol drostynt eu hunain neu dynnu eu hunain o sefyllfaoedd a allai fod yn gamdriniaeth.

• Mae anabledd hefyd yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd rhywun yn dioddef camdriniaeth.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​​        

A yw pobl hŷn yn ceisio cymorth?

 

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod pobl hŷn yn llai tebygol o roi gwybod am gamdriniaeth na grwpiau oedran iau; nid ydynt yn defnyddio gwasanaethau arbenigol y trydydd sector ac maent hefyd eisiau cymorth i'r un sy'n cam-drin.

 

Ar lefel unigolyn efallai y bydd llawer o resymau pam nad yw pobl hŷn yn ceisio cymorth:

• Teimlad camsyniol eu bod rhywsut yn gyfrifol am y gamdriniaeth;

• Ofn ôl-effaith gan y tramgwyddwr;

• Lefel uwch o ddibyniaeth emosiynol, ariannol a chorfforol ar eu tramgwyddwr na'u cymheiriaid iau;

• Nid ydynt eisiau troseddu'r un sy'n cam-drin, a allai fod yn blentyn neu'n ŵyr neu'n wyres.

 

Ar lefel fwy sefydliadol, mae rhwystrau i geisio cymorth yn cynnwys y canlynol:

• Gall ffactorau o ran cenhedlaeth, gan gynnwys syniadau o breifatrwydd sy'n ymwneud â'r cartref a pherthnasoedd agos, fod yn rhwystr i geisio cymorth. (Zink et al, 2004, 2005).

 

• Mae ein gwaith ymchwil yn dangos nad yw'r gwasanaethau presennol yn addas ar gyfer dioddefwyr hŷn. Yn aml, caiff gwasanaethau eu teilwra i symud y goroeswr sy'n dioddef i ffwrdd o'r un sy'n cam-drin drwy adleoli o'r cartref teuluol a'r gymuned.

 

• Mewn sawl achos, mae pobl hŷn sy'n dioddef eisiau cynnal perthynas â'r person sy'n cam-drin, yn enwedig os mai plentyn neu ŵyr neu wyres sy'n oedolyn sy'n cam-drin. (Gwaith ymchwil gan SafeLives yn 2016 a Sprangler & Brandl, 2007).

 

• Mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn aml yn gweld pobl hŷn fel grŵp o oedolion unffurf sy'n agored i niwed na allant wneud eu penderfyniadau eu hunain. (Harbison, 2012).

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, o ystyried y gwaith a’r ffocws parhaus ar y mater a amlinellwyd gan y Comisiynydd Pobl Hŷn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd am ei waith yn ymchwilio i’r anghenion pwysig hyn a thynnu sylw atynt.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/07/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Ceredigion
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2019