P-05-1104 Dylid gwneud i unrhyw gamau sy'n cael eu cyflwyno o ran Covid-19 fod yn destun pleidlais yn Senedd Cymru
P-05-1104 Dylid gwneud i unrhyw gamau sy’n cael eu
cyflwyno o ran Covid-19 fod yn destun pleidlais yn Senedd Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Dave Smith, ar ôl casglu cyfanswm o 155 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
Prif Weinidog Cymru wedi bod yn ymgymryd â’r gwaith o basio rheolau ar
fywydau'r cyhoedd heb gael cymeradwyaeth gan gynrychiolwyr etholedig Senedd
Cymru yn gyntaf. Felly nid yw’r rheolau’n ddemocrataidd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd nad oedd llawer o gamau pellach
y gallai eu cymryd ar hyn o bryd oherwydd mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor
cyn Etholiad y Senedd ac, fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth gan y Prif
Weinidog, mae deddfwriaeth iechyd cyhoeddus yn caniatáu i Lywodraeth Cymru
wneud rheoliadau cyn iddynt gael eu cymeradwyo gan y Senedd. Cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Islwyn
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/01/2021