P-05-1142 Ymarfer Corff i Helpu Allan
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Jamie Price, ar ôl casglu cyfanswm o 261 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar
ôl y cyfyngiadau symud cyntaf, gwariodd Llywodraeth y DU £500 miliwn ar y
cynllun bwyta allan i helpu allan!
Y
tro hwn, dylid canolbwyntio ar iechyd!
Gyda
lefelau gweithgarwch corfforol wedi disgyn i lefelau nas gwelwyd erioed o’r
blaen yn ystod y trydydd cyfnod hwn o gyfyngiadau symud a ffigurau iechyd
meddwl yn saethu’n uwch nag a welwyd erioed o’r blaen, mae angen inni
flaenoriaethu iechyd ar ôl y cyfnod clo!
Byddai
cynllun mynd allan i helpu allan ar gael i unrhyw un a fyddai am fynd i’r
gampfa, pwll nofio neu gyfleusterau hamdden gyda phas diwrnod, i ddosbarth
ffitrwydd neu weithgaredd ffitrwydd yn yr awyr agored. Gallai dynnu 50% oddi ar
gostau unigolyn, wedi’i gyfyngu i uchafswm o hyd at £10 yr un.
Byddai
hyn yn gyfle i flaenoriaethu a gwella iechyd y genedl ar ôl y pandemig ac yn
tynnu ychydig o’r pwysau oddi ar y GIG yn y dyfodol!
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor fod gwaith wedi’i wneud ac yn cael ei
wneud gyda sefydliadau chwaraeon a chyrff cyhoeddus i gefnogi ac annog ymarfer
corff yn dilyn y pandemig, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd
am godi'r mater hwn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/03/2021