P-05-1155 Caniatáu chwaraeon dwr diogel, gan gadw pellter cymdeithasol, yn ystod cyfnodau clo y coronafeirws
P-05-1155 Caniatáu chwaraeon dŵr diogel, gan gadw
pellter cymdeithasol, yn ystod cyfnodau clo y coronafeirws
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Tavi Murray, ar ôl casglu cyfanswm o 1,447 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
gweithgareddau ac ymarfer corff yn yr awyr agored yn hynod fuddiol i iechyd
meddwl ac iechyd corfforol pobl. Gofod glas: mae camlesi, afonydd, llynnoedd
a'r arfordir yn ffynonellau llesiant gwerthfawr a diogel, a wrthodir i ni yng
Nghymru ar hyn o bryd. O ganlyniad i hyn mae llawer ohonom yn dioddef o heriau
iechyd meddwl gwirioneddol.
Rydym
yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r ymadrodd sy'n awgrymu bod pob math o chwaraeon
dŵr yn cael ei wahardd yn ystod cyfnodau clo a chaniatáu mynediad at ofod
glas lleol ar yr amod bod cyfyngiadau teithio yn cael eu dilyn.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Rydym i gyd yn cytuno y dylem “osgoi
gweithgareddau sy'n golygu cryn dipyn o risg” yn ystod cyfnodau clo beth bynnag
fo'r amgylchedd lle mae'r rhain yn cael eu cynnal, er mwyn gwarchod y
gwasanaethau brys. Fodd bynnag, gofynnwn i Lywodraeth Cymru ddileu'r ymadrodd
sy'n awgrymu bod pob math o chwaraeon dŵr yn y categori hwn. Gall
gweithgareddau dŵr fel caiacio, canŵio, syrffio, chwaraeon padlo a
nofio yn yr awyr agored ddarparu ymarfer corff rhagorol a diogel ynghyd â
buddion iechyd meddwl enfawr.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i aralleirio'r
Cwestiynau Cyffredin hyn i ddarllen yn syml: “Gan mai un o ddibenion y
cyfyngiadau yw lleihau’r pwysau ar y GIG yng Nghymru, dylech osgoi
gweithgareddau sy’n golygu cryn dipyn o risg.”
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gŵyr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/03/2021