P-05-1077 Peidiwch â newid ffin bleidleisio de Ystrad Mynach
P-05-1077 Peidiwch â newid
ffin bleidleisio de Ystrad Mynach
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Philip Morris, ar ôl casglu 912 o lofnodion
ar-lein a 443 lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 1,355 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gynigion datblygedig
iawn, sydd bellach gerbron Llywodraeth Cymru, a fyddai'n symud ystâd Melin yr
Efail a Cwrt Coopers i gyngor cymuned Llanbradach. Ni hysbyswyd trigolion yr
ardal gyfan hon, er bod eu cynghorwyr cymuned lleol yn gwbl ymwybodol. Nid oes
neb wedi ymgynghori â ni. Dim drwy hap a damwain y cawsom wybod bod y cynigion
hyn yn bodoli.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cynigion hyn yn ein gwahanu â’n cymuned, gan fynd â'n pleidlais o’r
gymuned rydym yn cymryd rhan weithredol ynddi a’i rhoi i gymuned nad ydym yn
rhan ohoni. Nod y ddeiseb hon yw rhoi gwybod i chi, ein cynrychiolwyr yn y
Senedd, am ein gwrthwynebiad cryf i'r newidiadau arfaethedig i ffin bleidleisio
de Ystrad Mynach. Rydym yn mynnu peidio â chael ein gwahanu â'n cymuned ac yn
hyderu y byddwch yn cymryd y camau priodol i sicrhau nad ydym yn rhan o'r
cynnig.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
15/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor
y ddeiseb a'r wybodaeth bellach a gafwyd. Cydnabu fod y cyfnod statudol ar
gyfer cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ar y cynnig hwn yn dod i ben yn
fuan a nododd ei ddisgwyliad y bydd y ddeiseb yn cael ei hystyried fel rhan o
hyn. Cytunodd y Pwyllgor i ddwyn sylw’r Gweinidog i sylwadau ychwanegol y
deisebydd ac, yn unol â’i benderfyniad ar ddeiseb flaenorol nad yw’n briodol
iddo graffu ar gynigion diwygio ffiniau penodol, penderfynodd gau’r ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Caerffili
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/12/2020