P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

Wedi'i gwblhau

 

P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan British Lung Foundation Cymru, ar ôl casglu 159 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru, mae pobl yn anadlu lefelau llygredd aer sy’n anghyfreithlon ac sy’n niweidiol i’w hiechyd. Mae plant ymysg y rheiny sydd fwyaf diamddiffyn rhag llygredd aer. Mae eu hysgyfaint yn dal i dyfu, a gall aer llygredig arafu twf eu hysgyfaint, a golygu eu bod yn fwy tebygol o gael asthma, a phroblemau iechyd eraill, yn nes ymlaen yn eu bywyd.

Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan y BLF i awdurdodau lleol yn 2017, gwelwyd nad oedd 68 y cant o ymatebwyr (15 o 22) yn monitro llygredd aer o fewn 10 metr o unrhyw un o’u hysgolion.

Yr ydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod pob Awdurdod Lleol yn monitro ansawdd yr aer y mae plant yn ei anadlu pan fyddant yn yr ysgol, fel bod gan y rheiny sy’n gwneud penderfyniadau y wybodaeth angenrheidiol i ymateb i lygredd aer.

 

Awyr Glas

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/10/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i nodi cyhoeddi'r Cynllun Aer Glân a sylwadau pellach y deisebwyr.  Yng ngoleuni boddhad y deisebwyr â llawer o gynnwys y Cynllun a natur ehangach y camau gweithredu y maent am eu gweld i wella ansawdd aer yn gyffredinol, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/07/2018.

 

 

Statws

Mae'r ddeiseb hon yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         De Caerdydd a Phenarth

·         Canol de Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2018