P-05-1149 Dylid ailgychwyn chwaraeon tîm i blant yn unol â Lloegr ar Fawrth 29ain 2021
P-05-1149 Dylid ailgychwyn chwaraeon tîm i blant yn unol
â Lloegr ar Fawrth 29ain 2021
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Dan McKenna, ar ôl casglu cyfanswm o 68 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yn
Lloegr heddiw, cyhoeddwyd y bwriad i ailgychwyn chwaraeon tîm i blant o Fawrth
29ain 2021 ymlaen (yn ddibynnol ar bedwar amod y mae'n rhaid eu bodloni wrth
bob cam o lacio’r cyfyngiadau symud). Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw
Llywodraeth Cymru wedi sôn am ddyddiad pan all chwaraeon tîm ddychwelyd yng
Nghymru.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
plant wedi gorfod aros gartref ers Rhagfyr 20fed, a chyfyngedig fy eu mynediad
at ymarfer corff neu ryngweithio gyda’u ffrindiau a’u cyd-aelodau ar y tîm. Mae
hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn gyda llai o gyfle i fod yn yr awyr agored yn
ystod misoedd y gaeaf, ac iechyd corfforol a meddyliol o dan straen. Mae plant
wedi cael amser anodd iawn yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19, gyda tharfu
difrifol ar eu bywydau bob dydd. Wrth i ddisgyblion ddychwelyd at ddysgu wyneb
yn wyneb mewn ysgolion, mae’n hanfodol hefyd bod Llywodraeth Cymru yn rhoi
blaenoriaeth ar y cyd â hynny i gael plant i gadw’n actif eto, cyn gynted â
phosibl.
Mae'r
ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r mater hwn yn yr
adolygiad 3 wythnos nesaf ar Fawrth 12fed 2021.
Cyhoeddwch
fap o’r ffordd ymlaen yn debyg i Loegr – sy'n cynnig dyddiad(au) clir ac amlwg
– o ran ailgychwyn chwaraeon tîm i blant yng Nghymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y
Pwyllgor y deisebau am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni arwydd Llywodraeth Cymru y
bydd gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu i blant yn gallu ailddechrau o 29
Mawrth, nododd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar
hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Sir Drefaldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/03/2021