P-05-1153 Dylid agor campfeydd awyr agored a chaniatáu chwaraeon awyr agored yng Nghymru yn yr un modd ag yn Lloegr ar 29 Mawrth
P-05-1153 Dylid agor campfeydd awyr agored a chaniatáu
chwaraeon awyr agored yng Nghymru yn yr un modd ag yn Lloegr ar 29 Mawrth
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Keri Mckibbin, ar ôl casglu cyfanswm o 272 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn
rheoli campfa ym Mhorth Tywyn. Mae gennym 8,000 troedfedd sgwâr o le yn yr awyr
agored, ac rydym wedi cael adborth hynod gadarnhaol o'r sesiynau hyn yn yr awyr
agored a oedd yn dilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Mae’r cyfnod clo
wedi gwneud niwed i lawer o’n haelodau, gan godi gorbryder, straen, ofn ac
iselder. Mae pob un yn dweud bod ein sesiynau yn yr awyr agored wedi cadw'r
cyflyrau hyn draw ac wedi bod yn help aruthrol drwy gyfnod anodd iawn. Nid oes
modd gorbwysleisio eu heffaith ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol, a byddai'n
hwb enfawr i fywyd cymunedol Cymru.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
gwyddonwyr SAGE, sy'n cynghori Llywodraeth y DU, yn dweud bod ymarfer corff yn
yr awyr agored yn ddiogel ac yn argymell pawb i wneud ymarfer corff unwaith y
dydd. Wrth wneud hyn, rydym yn cynnal yr holl brofion tymheredd, yn diheintio'r
holl gyfarpar a ddefnyddir rhwng sesiynau, ac mae pawb yn trin ei gyfarpar ei
hun. Mae’n siŵr ei bod yn llawer gwell ymarfer corff mewn amgylchedd proffesiynol
rheoledig, gan roi hwb i iechyd y gymuned. Bu timau chwaraeon lleol hefyd yn
arsylwi ar yr amodau llym hyn drwy gydol y cyfnodau y caniatawyd iddynt
chwarae, a bydd ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith bwerus
iawn ar blant ac oedolion yng Nghymru. Mae chwaraeon ysgol yn Lloegr, er
enghraifft, yn dechrau ar 8 Mawrth, eto ar gyngor gwyddonwyr. Dewch i ni gael
Cymru i fynd eto a pheidio â syrthio y tu ôl i Loegr.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Llanelli
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/03/2021