P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
C.A.R.I.A.D., ar ôl casglu cyfanswm o 1,738 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yn dilyn rhaglen ddogfen a ddarlledwyd ar
BBC One Cymru nos Lun 30 Medi 2019, yn tynnu sylw at gyflwr dychrynllyd y
fasnach cŵn bach gyfreithlon, drwyddedig a reoleiddir yng Nghymru,
ffaeleddau'r broses arolygu, yr anghysonderau a'r camgymeriadau yn adroddiadau
arolygu trwyddedau'r Cyngor a'r canllawiau gofidus, yn aml, a roddir gan
filfeddygon i arolygwyr trwyddedau (nad ydynt yn arbenigwyr ym maes lles
anifeiliaid) ar ffitrwydd cŵn bridio, rydym yn galw ar y Gweinidog i
ymyrryd ar unwaith a rhoi cyfarwyddyd i holl gynghorau Cymru i osod embargo ar
unrhyw drwyddedau newydd, ar brosesau adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau
cynllunio'n ymwneud â bridio cŵn nes bydd ymchwiliad llawn wedi'i gynnal
i'r ffaeleddau hyn: Ffaeleddau rydym wedi bod yn darparu tystiolaeth arnynt ers
blynyddoedd i Lywodraeth Cymru a chynghorau sydd, yn eu tro, wedi'u hanwybyddu
neu eu diystyru. Nid oes unrhyw ddiben parhau i roi trwyddedau bridio cŵn
o dan yr amgylchiadau dan sylw. Byddai gwneud hynny'n caniatáu i system
drwyddedu ddiffygiol barhau, gan beryglu lles cŵn bridio a chŵn bach
yn y sefydliadau hyn ac yn rhoi ymdeimlad ffug o sicrwydd i'r cyhoedd a fydd yn
credu ei bod yn iawn iddynt brynu ci gan sefydliad sydd wedi'i drwyddedu o dan
y drefn bresennol. Mae'n amlwg ei bod yn anodd i'r cyhoedd wahaniaethu rhwng
fferm cŵn bach trwyddedig a didrwydded a chan fod y Gweinidog ei hun wedi
ymrwymo i gael gwared ar ffermydd cŵn bach yng Nghymru, mae'n sefyll i
reswm y bydd hi am gymryd y camau mwyaf priodol, a hynny ar unwaith, i sicrhau
bod hyn yn digwydd nawr. Er ein bod yn croesawu'r addewid i gynnal adolygiad
brys o'r system drwyddedu bresennol, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Hyd nes
y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod rheoliadau cadarn, newydd ac addas i'r diben,
ni ddylid cymeradwyo unrhyw drwyddedau newydd, ni ddylid adnewyddu unrhyw
drwyddedau ac ni ddylid cymeradwyo unrhyw geisiadau cynllunio i adeiladu
sefydliadau bridio cŵn newydd neu i ymestyn sefydliadau bridio presennol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd
y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd fod Rheoliadau Lles Anifeiliaid
(Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 wedi'u
pasio gan y Senedd ym mis Mawrth 2021. Felly llongyfarchodd y Pwyllgor yr
ymgyrchwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 25/02/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol de Cymru Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/01/2020