P-05-1103 Rhowch derfyn ar gymhwyso'r un cyfyngiadau Covid-19 ar draws Cymru gyfan
P-05-1103 Rhowch derfyn ar gymhwyso'r un cyfyngiadau
Covid-19 ar draws Cymru gyfan
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Mark James Simpson, ar ôl casglu cyfanswm o 7,995 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
cyfraddau heintio Covid-19 yn amrywio'n fawr ar draws Cymru. Mae cyfraddau rhai
ardaloedd ymysg yr uchaf yn y DU ac mae rhai ymysg yr isaf. Mae llawer o
filltiroedd yn aml rhwng yr ardaloedd â'r cyfraddau uchaf ac isaf. Mae
cyfyngiadau Covid-19 yn achosi difrod economaidd aruthrol, diweithdra cynyddol
a chau nifer helaeth o fusnesau. Pan fydd cyfraddau'n uchel iawn, mae’n bosibl
mai cyfyngiadau llym yw'r unig ffordd o reoli lledaeniad yr haint ond, pan fo
cyfraddau'n isel, mae'r difrod economaidd a’r niwed iechyd yn anghymesur o
uchel.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Mae'r rhan fwyaf o fusnesau yn ardaloedd gwledig
Cymru, lle mae cyfraddau heintio’n tueddu i fod yn isel, yn fregus iawn a bydd
rhagor o gyfyngiadau sy'n effeithio ar eu gallu i fasnachu’n gorfodi llawer mwy
i gau'n barhaol. Bydd hyn yn cael effaith ddinistriol ar ardaloedd lle mae
diweithdra eisoes yn uchel a chyflogau'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol, gan
orfodi llawer o bobl o oedran gweithio i adael ardaloedd gwledig, yn aml am
byth. Cydnabyddir bod effeithiau andwyol y cyfyngiadau ar iechyd pobl yn
cyfrannu'n helaeth at y nifer fawr o farwolaethau ychwanegol sy'n digwydd yn
ystod y pandemig nad ydynt yn deillio o haint coronafeirws.
Yr unig ffordd o leihau'r difrod economaidd a’r
niwed iechyd a achosir gan gyfyngiadau Covid-19 wrth reoli cyfraddau heintio
mewn ardaloedd â chyfraddau uchel yw defnyddio dull gweithredu haenog, fel sydd
wedi'i wneud yn gyson ac yn llwyddiannus yn yr Alban a Lloegr.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio mai hwn yw cyfarfod olaf y
Pwyllgor cyn etholiadau’r Senedd a’r tebygolrwydd y bydd amgylchiadau’n parhau
i newid erbyn i’w bwyllgor olynol gael ei sefydlu, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ynys Môn
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/01/2021