P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog

P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog

Wedi'i gwblhau

 

P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan David Adam Clarke, ar ôl casglu cyfanswm o 174 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​​Mae’n bosibl na fydd staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed, sydd angen cael eu diogelu neu sydd wedi bod yn feichiog am gyfnod o dros 28 wythnos yn elwa ar yr un cymorth ariannol na’r un mesurau diogelu ag a ddarperir gan fyrddau iechyd i staff amser llawn y GIG. Mae rhai o staff cronfa GIG Cymru, fel cynorthwywyr iechyd, nyrsys a bydwragedd ac eraill, wedi bod yn gweithio yn y GIG ers blynyddoedd, a dyma yw prif ffynhonnell eu hincwm. Mae’n bosibl y bydd staff cronfa sy’n agored i niwed neu’n feichiog yn wynebu dewis rhwng gweithio neu beidio ag ennill cyflog, a hynny ar yr amod bod gwaith amgen yn cael ei gynnig iddynt beth bynnag.
Os gwelwch yn dda, cefnogwch staff cronfa’r GIG.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwarchod pobl agored i niwed rhag gwahaniaethu (o dan y pennawd anabledd), yn ogystal â phobl sy’n feichiog neu ar gyfnod mamolaeth.
O dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, yn ogystal â Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999, mae’n rhaid cynnal asesiadau risg mewn perthynas â staff cronfa’r GIG mewn perthynas ag argyfwng Covid-19. Mewn sefyllfaoedd lle nad oes modd i’r staff cronfa dan sylw weithio, neu lle na ellir cynnig gwaith arall iddynt, mae’n bosibl y bydd y staff hynny yn cael eu gadael heb incwm.
Yn y cyfnod digynsail hwn, dylai Senedd Cymru, GIG Cymru a’r byrddau iechyd perthnasol ymestyn cymorth ariannol a mesurau diogelu i staff cronfa’r GIG. Ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd staff cronfa’r GIG yng Nghymru yn wynebu dewis rhwng gweithio neu aros gartref heb gymorth ariannol.


https://www.rcn.org.uk/get-help/rcn-advice/bank-workers


https://www.rcm.org.uk/media/3896/2020-04-21-occupational-health-advice-for-employers-and-pregnant-women.pdf


https://www.bristolpost.co.uk/news/bristol-news/nhs-southmead-hospital-furlough-coronavirus-4082655

 

 

Health and Money

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ymateb pellach a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a nododd fod y Llywodraeth wedi gofyn i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ystyried amgylchiadau unigol gweithwyr cronfa’r GIG yn y sefyllfa hon. Yn sgîl hyn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer o gamau eraill y gallai eu cymryd ar hyn o bryd, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/06/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • De Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2020