P-05-1003 Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Cian Ciaran, ar ôl casglu cyfanswm o 10,692 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
ni, sy’n llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio Deddf yr
Amgylchedd (Cymru) 2016 mewn perthynas ac ansicrwydd, a sicrhau bod Asesiad
llawn o’r Effaith Amgylcheddol yn cael ei gynnal cyn bod modd gwaredu unrhyw
waddod pellach o orsaf pŵer niwclear Hinkley Point yn Cardiff Grounds.
Peidiwch â gadael i Lywodraeth Cymru dorri ei chyfraith ei hun!
Gwybodaeth
Ychwanegol
Rhaid
i’r asesiad o’r effaith amgylcheddol ddarparu
Data
sylfaenol manwl am ymddygiad a thynged deunydd sy’n cael ei waredu yn Cardiff
Grounds;
Dadansoddiad
radiolegol llawn, gan gynnwys allyrru gronynnau alffa;
Asesiad
manwl a chyfoes o effeithiau radiolegol posibl ar boblogaeth de Cymru;
Rheoli
llygryddon niwclear ar y tir yn hytrach na’u gwasgaru ar y môr;
Parchu
cytundebau ynghylch gwaredu morol;
Gwarchod
Afon Hafren.
Rydym
hefyd yn galw ar y Senedd nad oes buddiannau niwclear yn dylanwadu ar yr
Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 01/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor ei fod wedi trafod y ddeiseb ar sawl
achlysur a bod y ddeiseb hefyd wedi cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn.
Daethpwyd i’r casgliad na ellir dweud yn glir beth arall y gellid ei wneud ar y
mater hwn. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebwyr a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
15/09/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/09/2020