P-05-1140 Dylid adolygu'r canllawiau ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim, gan ddileu'r opsiwn ar gyfer dosbarthu parseli bwyd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Sarah Rees, ar ôl casglu cyfanswm o 205 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Cafodd
delweddau ofnadwy o barseli bwyd yn Lloegr eu dosbarthu, gan arwain at San
Steffan yn ymrwymo i ddarparu talebau i bawb. Mae 3 chyngor yn dal i ddosbarthu
parseli bwyd yng Nghymru. Mae teuluoedd wedi rhannu delweddau o barseli sy’n
brin iawn o ddewis sydd ddim yn bodloni gofynion dietegol, ac yn ôl
adroddiadau, sy’n cynnwys cynnyrch ffres wedi mowldio. Dyw rhai rhieni ddim yno
i dderbyn y parseli oherwydd eu bod yn y gwaith, a bydd eisiau bwyd ar y plant,
o ganlyniad.
Gwn
beth yw’r stigma sy’n gysylltiedig â phrydau ysgol am ddim, mae’n bryd grymuso
teuluoedd a gadael iddyn nhw ddewis yr hyn y mae eu plant yn ei fwyta.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Yr
arweiniad sy’n cefnogi rhieni orau yw ymrwymo i daliadau BACS yn ddiofyn, gyda
thalebau’n cael eu darparu pan ofynnir amdanynt.
Mae
Sefydliad Bevan yn argymell y dylai pob awdurdod lleol ddarparu taliadau arian
parod. i osgoi problemau gydag ansawdd y bwyd mewn parseli – a faint o fwyd
sydd ynddynt – yn ogystal ag osgoi stigma.
Mae'r
Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn amlinelli pam mai arian parod yw’r dewis
cyntaf:
*
Mae arian parod yn rhoi urddas i bobl trwy gael gwared ar y stigma sy'n aml yn
mynd law yn llaw â defnyddio cefnogaeth mewn nwyddau, neu dalebau.
*
Mae taliadau arian parod yn cynnig dewis a rheolaeth trwy alluogi teuluoedd i
ddefnyddio cefnogaeth mewn ffordd sy'n gweithio orau iddyn nhw, gan eu galluogi
i ddiwallu'r anghenion lluosog sydd ganddyn nhw.
*
Arian parod yw'r hyn sy’n well gan y rhan fwyaf o deuluoedd incwm isel.
*
Mae arian parod yn dileu'r trefniadau cymhleth neu ddrud sy’n gysylltiedig â
chyflenwyr cymorth mewn nwyddau.
*
Mae taliadau arian parod yn caniatáu gwell gwerth am arian i deuluoedd
*
Mae’n hwb i’r economi leol gan eu bod nhw’n fwy tebygol o wario’r arian gyda
manwerthwyr lleol ac annibynnol, yn hytrach na mewn archfarchnadoedd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 20/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd
y Pwyllgor fod y ddeiseb yn ymdrin â mater pwysig ond roedd plant wedi
dychwelyd i’r ysgol ers Ebrill 2021. Gan hynny, cytunodd yr aelodau i
ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, yn gofyn iddo nodi’r materion a
godwyd yn y ddeiseb fel rhan o’r adolygiad a oedd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i’r meini prawf
cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Wrth wneud hynny cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebydd.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2021