P-05-1147 Dylid ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ddarparu addysg fyw/addysg wedi'i recordio bob dydd i bob disgybl nad yw'n dychwelyd i'r ysgol

P-05-1147 Dylid ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ddarparu addysg fyw/addysg wedi'i recordio bob dydd i bob disgybl nad yw'n dychwelyd i'r ysgol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Catherine Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 308 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae ysgolion o hyd sy'n honni bod rhwystrau anorchfygol o ran darparu gwersi, bum wythnos i mewn i'r tymor ac am saith wythnos o'r flwyddyn academaidd hon. Nid yw hyn yn dderbyniol mwyach. Rhaid i bob plentyn gael mynediad cyfartal at addysg. Rhaid dod o hyd i atebion i'r rhwystrau hynny a rhaid addysgu pob disgybl.

 

five brown pencils

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/07/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd fod y Gweinidog ar y pryd wedi datgan yn glir mai mater i'r ysgol a'r awdurdod lleol yw penderfyniadau ynghylch gwersi byw neu wersi wedi’u recordio. O ganlyniad, nid oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd. Cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater ac awgrymu eu bod yn cysylltu â'u hysgol neu awdurdod lleol yn uniongyrchol os oeddent yn dymuno bwrw ymlaen â'r mater.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Sir Drefaldwyn
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/03/2021