P-05-1138 Profion COVID-19 wythnosol ar gyfer staff sy'n gofalu am bobl ag anghenion iechyd meddygol cymhleth
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Leanne Collis, ar ôl casglu cyfanswm o 50 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
ein merch, Olivia, yn 17 oed ac mae ganddi anghenion iechyd meddygol cymhleth
sy’n galw am ofal 24 awr. Mae hi mewn perygl o ddal y feirws angheuol hwn bob
dydd heb unrhyw system brofi!!
Llofnodwch,
plîs! Mae’r staff cymunedol rydym yn sôn amdanynt yn weithwyr rheng flaen sy’n
gofalu am bobl agored i niwed, ac maent yn rhoi’r holl ofal personol ac yn
cyflawni tasgau angenrheidiol yn y cartref sy’n ofynnol mewn amgylchedd ysbyty.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
profion wythnosol ar gael ar safleoedd y GIG
Mae
profion wythnosol ar gael mewn cartrefi gofal
Mae
profion wythnosol ar gael mewn cartrefi preswyl ysgolion arbennig
Rwyf
wedi cysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyfeiriodd y mater at ein bwrdd
iechyd lleol, ond maent wedi GWRTHOD diogelu Olivia a phrofi ei staff!
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd fod y pryderon a godwyd bellach wedi cael
sylw, a chytunodd i ddiolch i'r deisebydd am godi'r mater a chau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf
gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2021