P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Angharad Owen, ar ôl casglu cyfanswm o 34,736 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
Prydain - gan gynnwys Cymru - wedi elwa o wladychiaeth a chaethwasiaeth am
ganrifoedd. Mae angen i hyn gael ei gynrychioli yn y cwricwlwm.
Yn
aml iawn, mae'r Ymerodraeth Brydeinig yn cael ei mawrygu, ac effaith fyd-eang
gwladychiaeth Prydain yn cael ei thanbrisio. Adlewyrchwyd hyn yn y cynnwys a
addysgir.
Mae
angen newid gwirioneddol a sylweddol. Mae gwaddol caethwasiaeth a gwladychiaeth
yn cael effaith wirioneddol ar gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
ledled Prydain heddiw, ac mae angen i system addysg Cymru gydnabod hyn.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 20/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-05-1080
Cyflwyno deunyddiau addysgu gwrth-hiliol i blant mewn ysgolion yng Nghymru er
mwyn lleihau troseddau casineb a chytunodd i groesawu'r ffaith bod y
Gweinidog Addysg wedi derbyn adroddiad cynhwysfawr y Gweithgor a 51 o’i
argymhellion ym mis Mawrth 2021 a:
- bod y ddwy ddeiseb wedi llwyddo i dynnu sylw
at yr angen i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o brofiadau a chyfraniadau
cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghwricwlwm Cymru,
- diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y
materion pwysig hyn a chau’r deisebau; ac
- wrth gau'r ddeiseb, cytunodd yr aelodau i
ysgrifennu at y Gweinidog i gael y wybodaeth ddiweddaraf am roi'r
argymhelliad ar waith ddiwedd mis Mawrth 2022, gan gytuno i rannu'r ymateb
hwnnw â'r deisebwyr.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Clwyd
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/09/2020