P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Fatima Altaiy, ar ôl casglu cyfanswm o 4,053
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae angen addysgu plant sut i fod yn wrth-hiliol. Er y bydd cyflwyno
hanes pobl dduon a pobl groenliw i’r cwricwlwm yn fuddiol dros ben, mae angen i
blant gael sgyrsiau uniongyrchol am hiliaeth a sut i fod yn wrth-hiliol. Bydd
hyn yn lleihau’r achosion o fwlio mewn ysgolion ac yn caniatáu i blant dyfu i
fyny mewn amgylchedd amlddiwylliannol, waeth p’un a ydynt wedi’u hamgylchynu
gan ddiwylliannau eraill ai peidio. Fel hyn, bydd plant yn deall diwylliannau
eraill ac yn gorchfygu stereoteipio a gwahaniaethu.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 20/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-05-1000
Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng
nghwricwlwm addysg Cymru a chytunodd i groesawu'r ffaith bod y Gweinidog
Addysg wedi derbyn adroddiad cynhwysfawr y Gweithgor a 51 o’i argymhellion ym
mis Mawrth 2021 a:
- bod y ddwy ddeiseb wedi llwyddo i dynnu sylw
at yr angen i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o brofiadau a chyfraniadau
cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghwricwlwm Cymru,
- diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y
materion pwysig hyn a chau’r deisebau; ac
- wrth gau'r ddeiseb, cytunodd yr aelodau i
ysgrifennu at y Gweinidog i gael y wybodaeth ddiweddaraf am roi'r
argymhelliad ar waith ddiwedd mis Mawrth 2022, gan gytuno i rannu'r ymateb
hwnnw â'r deisebwyr.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Canol Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/12/2020