P-05-1110 Dylid adfer nofio am ddim i bensiynwyr
P-05-1110 Dylid adfer nofio am ddim i bensiynwyr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Peter Roberts, ar ôl casglu cyfanswm o 78 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
cyfyngu nofio am ddim i amseroedd penodol yn golygu bod mwy o bobl yn y pwll ar
yr un pryd, ac felly mae'n cyfyngu’n ddifrifol ar nofio. A minnau’n bensiynwr,
nid wyf yn nofio yn rheolaidd mwyach.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Wrth i’r cyfyngiadau symud presennol gael eu
llacio, mae ar lawer o bensiynwyr angen yr ymarfer corff na ellir ei gael ond
drwy nofio; o brofiad, mae'r rhan fwyaf o bensiynwyr yn defnyddio pyllau nofio
ar adegau tawel a’r tu allan i oriau brig. O ystyried y miliynau o bunnoedd
sy’n cael eu gwario i geisio achub yr economi, mae’r arian a arbedir trwy dynnu
nofio am ddim yn ôl yn swm diystyr.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/01/2021