P-05-1116 Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru
P-05-1116 Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu
gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan John
Gillibrand, ar ôl casglu cyfanswm o 1,913 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Gyda'r
newyddion mawr bod brechlyn COVID wedi'i gymeradwyo ac y bydd yn dechrau cael
ei gyflwyno'n fuan - mae'n hanfodol cael hyn yn gywir. Nid yw'r rhestr
bresennol o’r rhai a fydd yn cael eu brechu gyntaf yn rhoi blaenoriaeth i bobl
ag anableddau dysgu - er ei bod CHWE GWAITH yn fwy tebygol y byddant yn marw
o’r coronafeirws yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr (nid yw ystadegau Cymru wedi'u
cyhoeddi eto). Hyd yn oed yn waeth, mae'r rhai ag anableddau dysgu rhwng 18 a
34 oed 30 gwaith yn fwy tebygol o farw.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Rwyf wedi dechrau'r ddeiseb hon i bobl ag anableddau
dysgu gael eu cynnwys yn rhestr y rhai â blaenoriaeth oherwydd fy mod yn ofni
dros fy mab. Mae'n oedolyn ifanc sy'n byw mewn gofal amser llawn - pe bai'r
coronafeirws yn lledaenu i'r cartref gofal, gallai fod yn ddinistriol iddo, ac
eraill ag anableddau dysgu y mae'n byw gyda hwy, ac ar draws y DU.
Mae angen i ni sicrhau y caiff y grŵp hwn
ei ddiogelu ac rwyf am weld rhestr o’r rhai sydd â blaenoriaeth ar gyfer brechu
sy’n ystyried y rhai â chyfraddau marwolaethau uwch o COVID-19.
Dylai pobl hŷn gael eu brechu gyntaf, ond
dim ond chweched ar y rhestr yw pobl, fel fy mab, y mae'r feirws yn risg fawr
iddynt - does bosib bod arnom angen strategaeth wedi'i thargedu'n well wrth
ddechrau'r cynllun brechu?
Llofnodwch fy neiseb fel na chaiff pobl ag anableddau
dysgu eu hanghofio wrth i’r goleuni ym mhen draw'r twnnel ddod i’r golwg.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/02/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gwyr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/02/2021