P-05-1141 Dylid gwneud etholiad y Senedd yn deg - caniatáu danfon taflenni gwleidyddol dan gyfyngiadau symud
P-05-1141 Dylid gwneud etholiad y Senedd yn deg -
caniatáu danfon taflenni gwleidyddol dan gyfyngiadau symud
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Cadan ap Tomos, ar ôl casglu cyfanswm o 93 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod etholiad nesaf y Senedd yn rhydd ac
yn deg, drwy adael i ymgyrchwyr gwleidyddol ddanfon taflenni â llaw yn ddiogel
dan gyfyngiadau symud.
Mae’n
rhaid i bob pleidleisiwr gael cyfle teg i glywed gan ei ymgeiswyr a gwneud
penderfyniad gwybodus ynghylch sut i bleidleisio. Danfon taflenni yw'r ffordd
fwyaf hygyrch i ymgeiswyr roi gwybod i bobl lle y maent yn sefyll. Byddai
gwahardd danfon taflenni gwleidyddol yn rhoi mantais annheg i'r pleidiau mwyaf
sydd â mwy o arian a dylanwad.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
Chloe Smith, Gweinidog y Cyfansoddiad yn Llywodraeth y DU, wedi cyhoeddi na
chaniateir danfon taflenni gwleidyddol gan wirfoddolwyr dan reolau cyfyngiadau
symud Lloegr. A hynny er nad oes cyfyngiadau’n cael eu gosod ar y Post
Brenhinol, cwmnïau danfon eraill, na danfon taflenni masnachol gan fusnesau.
Disgwylir
i'r Cyfrifiad fynd rhagddo ym mis Mawrth, er bod hyn yn golygu bod angen i
filoedd o weithwyr ddanfon taflenni a churo ar ddrysau ar draws y wlad, yn
atgoffa pobl i lenwi a dychwelyd eu ffurflen Cyfrifiad.
Mae
gwariant plaid wleidyddol eisoes yn cael ei reoleiddio gan y gyfraith cyn
etholiadau’r Senedd. Mae'r rheoliad hwn ar waith gan ddisgwyl y byddai'r
pleidiau bellach yn ymgyrchu.
Yn
ystod pandemig, diogelwch sydd o'r pwys mwyaf. Ond os bydd yr etholiad yn mynd
rhagddo ym mis Mai, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ganiatáu i actifyddion
gwleidyddol ymgyrchu, ar yr amod eu bod yn cymryd rhagofalon diogelwch wrth
wneud hynny. Byddai gwahardd danfon taflenni gwleidyddol yn taflu amheuaeth ar
degwch unrhyw etholiad.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/03/2021