P-05-1126 Caniatáu chwaraeon wedi'u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed fel bod Cymru'n gweithredu yn unol â'r rheolau haen 4 yn Lloegr
P-05-1126 Caniatáu chwaraeon wedi’u trefnu yn yr awyr
agored ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed fel bod Cymru’n gweithredu yn unol â’r
rheolau haen 4 yn Lloegr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Katharine Bradley, ar ôl casglu cyfanswm o 2,461 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
plant yng Nghymru wedi wynebu blwyddyn gythryblus iawn, gan orfod hunanynysu’n
rheolaidd a cholli’r cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae chwaraeon yn rhan
hynod bwysig o lesiant meddyliol a chorfforol. Caniateir sesiynau hyfforddi
wedi’u trefnu yn Lloegr. Credwn y dylid caniatáu sesiynau o’r fath yng Nghymru
hefyd. Mae iechyd corfforol yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd. Ein
hamddiffyniad gorau yn erbyn y pandemig hwn ac unrhyw bandemig yn y dyfodol yw
bod yn iach ac yn heini.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Casnewydd
- Dwyrian De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/02/2021