P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy)
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan C.A.R.I.A.D., ar ôl
casglu 11,195 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i weithredu gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan siopau
anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol.
Mae gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan drydydd partïon am elw wedi'i enwi'n
'Gyfraith Lucy' ac fe'i cyhoeddwyd yn ddiweddar yn Lloegr. Mae cefnogaeth
enfawr gan y cyhoedd, y cyfryngau ac ar draws y pleidiau i Gyfraith Lucy, ac
rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
gyflwyno Cyfraith Lucy yng Nghymru fel mater o frys.
Mae tynnu cŵn bach oddi ar eu mamau i'w gwerthu yn aml yn creu cŵn
sâl, trist, wedi'u trawmateiddio, sy'n camweithredu. Dylid gallu gweld cŵn
bach gyda'u mam yn y lle y cawsant eu geni. Mae eu cludo i le gwahanol ar gyfer
eu gwerthu yn niweidiol o ran eu lles. Nid yw rheoleiddio gwerthu cŵn bach
yn fasnachol gan drydydd partïon yn effeithiol i atal niwed iddynt, ac felly
mae gwaharddiad yn angenrheidiol er lles cŵn bach.
Caiff cŵn bridio a gedwir mewn ffermydd cŵn bach eu cuddio o olwg y
cyhoedd ac yn aml maent yn dioddef trawma corfforol a seicolegol am
flynyddoedd. Mae rheoleiddio gwerthu cŵn bach yn fasnachol gan drydydd
partïon yn aneffeithiol o ran atal niwed i gŵn bridio ac mae gwaharddiad
ar drydydd partïon ar werthu cŵn felly yn angenrheidiol er eu lles.
Byddai gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan drydydd partïon yn cael effaith
gadarnhaol ar gŵn bridio, ac yn sicrhau eu bod yn weladwy, a byddai'n
galluogi'r cyhoedd i weithredu ar gyngor arfer gorau i weld ci bach gyda'r fam
ble y'i ganwyd.
Hefyd, ar hyn o bryd mae rhai pobl sy'n ffermio cŵn bach heb drwydded, a
smyglwyr cŵn bach, yn defnyddio trydydd partïon trwyddedig i werthu eu cŵn
bach, ac mae hyn yn ei gwneud yn bosibl iddynt weithredu heb gael eu dal, a heb
i awdurdodau lleol fonitro iechyd a lles cŵn bridio a chŵn bach. Mae
rheoleiddio gwerthu cŵn bach yn fasnachol gan drydydd parti yn
aneffeithiol wrth atal ffermio cŵn bach yn anghyfreithlon a smyglwyr cŵn
bach, ac felly mae angen gwaharddiad ar drydydd partion o ran gwerthu cŵn,
i ddiogelu cŵn, cŵn bach a'r cyhoedd, yn ogystal ag i atal
gweithgarwch troseddol.
Nid oes dim manteision lles o werthu cŵn bach
drwy werthwyr masnachol. Mae'r arfer hwn dim ond yn golygu bod cŵn bridio
yn cael eu cadw o lygad y cyhoedd. Yn ogystal â phryderon am les anifeiliaid,
mae gwerthiant gan drydydd partïon yn creu risgiau ychwanegol i iechyd a
diogelwch y cyhoedd.
Mae gwerthiant cŵn bach yn uniongyrchol gan fridwyr neu ganolfannau achub
cŵn adnabyddus yn amddiffyn pob parti, yn sgîl rhagor o dryloywder ac
atebolrwydd. Gallai gwaharddiad ar fargeinio am gŵn bach er elw godi
safonau iechyd a lles ar gyfer cŵn bridio a chŵn bach, yn ogystal â
darparu diogelwch y mae mawr ei angen ar gyfer y cyhoedd.
Mae gweithredu Cyfraith Lucy yng Nghymru hefyd yn hanfodol i fynd i'r afael â'r
difrod a wnaed i enw da Cymru, sy'n parhau i gael ei gydnabod fel canolbwynt o
ran ffermio cŵn bach yn y Deyrnas Unedig.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd
fod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag
Anifeiliaid) (Cymru) 2021 wedi'u pasio gan y Senedd ym mis Mawrth 2021. Felly
llongyfarchodd y Pwyllgor yr ymgyrchwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
29/01/2019.
Etholaeth a Rhanbarth
y Senedd
·
Pen-y-bont ar Ogwr
·
Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2019