P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Carl Tubbs, ar ôl casglu cyfanswm o 133 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
miloedd o lesddeiliaid fflatiau yng Nghymru yn wynebu biliau enfawr i dalu am
waith adfer cladin a ffurflen EWS1 i gadarnhau nid yn unig nad oes cladin
deunydd cyfansawdd alwminiwm (ACM, fel yn achos fel Grenfell) ond hefyd nad oes
'deunydd llosgadwy', ni waeth a oedd yr adeiladau wedi pasio’r rheoliadau o’r
blaen ai peidio.
Dylai
costau’r gwaith atgyweirio hwn gael eu talu gan y Llywodraeth a’r cynghorau gan
fod llawer o lesddeiliaid yn methu eu fforddio.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Nid
lesddeiliaid a ddylai fod yn gorfod talu am y gwaith atgyweirio hwn, gan fod y
gwaith yn cyrraedd y safon gywir cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei chyngor
newydd ym mis Ionawr 2020. Ni allwn werthu, nac ailforgeisio, ein fflatiau hyd
nes y bydd y gwaith wedi cael ei gwblhau, a hynny oherwydd bod benthycwyr
morgeisi yn pennu gwerth SERO iddynt, gan fod ein cartrefi bellach yn cael eu
hystyried yn 'anniogel'.
Yn
Lloegr, mae'r Gronfa Diogelwch Adeiladau yn cael ei defnyddio i helpu'r
atgyweiriadau ar adeiladau dros 18 metr, ond mae Llywodraeth Cymru yn
defnyddio'r arian hwn ar gyfer COVID-19 yn lle. Dylid defnyddio arian
Llywodraeth Cymru at yr un diben yng Nghymru ac ar gyfer pob adeilad sy’n
fflatiau – gan nad yw'r cyngor newydd ar gyfer adeiladau dros 18 metr yn unig.
Er bod y pandemig yn bwysig, mae angen i lesddeiliaid fod yn ddiogel yn eu
cartrefi.
https://medium.com/never-fear/the-grenfell-fire-that-continues-to-burn-7325ca87788c
https://www.walesonline.co.uk/news/politics/cardiff-bay-flats-victoria-wharf-18935612
Statws
Yn ei gyfarfod ar 01/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Er i’r Pwyllgor nodi nad oedd y mater hwn wedi cael ei
gwblhau’n llawn, cytunodd ei fod wedi cyrraedd man addas i nodi bod gwaith ar y
trywydd iawn. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
26/01/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/12/2020