P-05-1120 Dylai Llywodraeth Cymru atal pob cyfnod o gyfyngiadau symud ar unwaith
P-05-1120 Dylai Llywodraeth Cymru atal pob cyfnod o
gyfyngiadau symud ar unwaith
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Adrian Mark Phillips, ar ôl casglu cyfanswm o 56 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r
gyfradd farwolaethau oherwydd Covid19yn gymharol isel ac nid yw’n gwneud unrhyw
synnwyr i gymryd rheolaeth ddiangen dros boblogaeth Cymru a niweidio busnesau a
bywoliaethau.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Nid oes dim cyfiawnhad dros weithredu’n
ddidostur pan mai dim ond nifer fach o bobl sy’n marw o Covid19. Rydym yn mynnu
bod Llywodraeth Cymru yn atal pob cyfnod o gyfyngiadau symud ar unwaith ac yn
ailagor busnesau a chaniatáu i’r cyhoedd yn gyffredinol wneud eu penderfyniadau
eu hunain am y ford y maent yn dewis byw.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni bwriad presennol
Llywodraeth Cymru i godi cyfyngiadau mewn modd graddol, nododd nad oedd llawer
o gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i
gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2021