P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Rhys Bowler, ar ôl casglu cyfanswm o 779 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
gan Rhys gyflwr Nychdod Cyhyrol Duchenne. Mae'n byw mewn ofn am ei fywyd bob
dydd, ac yn cael ei adael ar ei ben ei hun am oriau’n gobeithio na fydd y
peiriant anadlu y mae’n dibynnu arno yn torri. Rhaid iddo ddewis rhwng gofal
cymdeithasol a ariennir yn wael a phecyn Gofal Iechyd Parhaus y GIG sy’n golygu
nad yw’n cael dewis pwy sy'n gofalu amdano.
Pe
bai Rhys yn byw yn Lloegr, byddai ganddo gyllideb iechyd bersonol, a fyddai’n
caniatáu iddo ddefnyddio Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn ogystal â gallu dewis
pwy sy'n gofalu amdano. Nid yw hyn ar gael yng Nghymru.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Rhys ydw i, rydw i’n 33 oed ac yn byw gyda
Nychdod Cyhyrol Duchenne ym Mhontypridd, Cymru. Mae gen i anawsterau symud
sylweddol ac mae angen peiriant anadlu arnaf er mwyn anadlu.
Rydw i wedi cyflogi fy nghynorthwywyr gofal fy
hun ers degawdau ac mae gennyf lawer o brofiad o'u hyfforddi a'u cyflogi. Rydw
i wedi cael profiadau gwael wrth ddefnyddio asiantaethau a pheidio gallu dweud
fy marn o ran pwy sy'n gofalu amdanaf. Rydw i eisiau dewis fy nghynorthwywyr
gofal fy hun. Rydw i eisiau gwybod pwy sy'n dod i’m cartref i'm helpu gyda fy
ngofal personol, ac rwyf am iddynt fod yn bobl rwy’n ymddiried ynddynt ac sydd
wedi’u hyfforddi o ran y ffordd orau i ddarparu gofal i mi. Peidiwch â gadael
i'm profiad gael ei wastraffu!
Rydw i eisiau Cyllideb Iechyd Bersonol er mwyn i
mi gael gofal 24 awr a chael dewis pwy yw fy nghynorthwywyr gofal. Mae hyn wedi
bod ar gael yn Lloegr ers 2014, mae'n hen bryd i Gymru gymryd hyn o ddifrif a
dechrau rhoi dewis a rheolaeth go iawn i bobl dros y gofal maen nhw'n ei gael.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/01/2021