Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd dim ymddiheuriadau. |
|
Gweithdrefnau ac arferion gweithio'r Pwyllgor Deisebau Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei weithdrefnau ar gyfer y dyfodol, ynghyd â’r arferion gweithio y bydd yn eu dilyn. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ganiatàu uchafswm o 10 munud
i ddeisebwyr gyflwyno eu safbwyntiau mewn sesiynau tystiolaeth
yn y dyfodol, a chaniatàu 20 munud i’r Pwyllgor eu
holi. ·
Gwneud mwy o ddefnydd
o rwydweithio cymdeithasol er mwyn gwella
ymgysylltiad â’r cyhoedd. |
|
Deisebau newydd Cofnodion:
|
|
P-04-319 Deiseb traffig y Drenewydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Datganodd Russell George fuddiant yn y ddeiseb. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth
Leol a Chymunedau yn gofyn am ei
sylwadau ar y materion sy’n deillio
o’r ddeiseb. |
|
P-04-320 Polisi Tai Cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddesieb hon am y tro cyntaf. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn am ei
sylwadau ar y materion sy’n deillio
o’r ddeiseb. |
|
P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn am ei
sylwadau ar y materion sy’n deillio
o’r ddeiseb ac am ragor o wybodaeth am y ffordd y byddai’r Bil Diogelu Treftadaeth
arfaethedig yn effeithio ar y ddeiseb hon. |
|
P-04-323 Achubwch ein hysgolion bach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Datganodd William Powell fuddiant
ym mhwnc y ddeiseb. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg
a Sgiliau yn gofyn am ei sylwadau
ar y materion sy’n deillio o’r
ddeiseb. ·
Ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i’w wneud
yn ymwybodol o’r ddeiseb ac i ofyn ei farn
ar y materion sy’n deillio o’r
ddeiseb. ·
Gwahodd y deisebwyr i roi
tystiolaeth i’r Pwyllgor. ·
Ysgrifennu at y Ddraig Ffwnci
i ofyn am sylwadau ar y mater hwn. |
|
P-04-324 Dywedwch Na i Tan 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel yn difetha ein cymuned Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Datganodd Russell George fuddiant
yn y ddeiseb, a datganodd William Powell fuddiant
yn y maes. Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor y byddai dadl y Ceidwadwyr Cymreig yn cael
ei gynnal ar y pwnc yn
y Cyfarofd Llawn ar 22 Mehefin 2011. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at Weinidog yr
Amgylchedd a Chynaliadwyedd
yn gofyn am ei sylwadau ar
y materion sy’n deillio o’r ddeiseb. ·
Ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Ynni a Newid Hinsawdd y DU yn gofyn am ei
sylwadau ar y materion sy’n deilllio
o’r ddeiseb. ·
Ysgrifennu at Cyfeillion y Ddaear i ofyn eu
barn ar y ddeiseb. |
|
P-04-325 Arian a fyddai’n galluogi disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig i gael mynediad i addysg ôl-16 prif-ffwrd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg
a Sgiliau yn gofyn am ei sylwadau
ar y ddeiseb. |
|
P-04-326 Na i losgyddion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at Weinidog
yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn gofyn ei farn ar y ddesieb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Dywedodd y Cadeirydd fod y deisebwr wedi gofyn i’r
Pwyllgor ohirio trafodaeth bellach ar y ddesieb oherwydd
ei fod wedi
gwneud cais i gyfarfod y Prif Weinidog a’i Aelod
Cynulliad lleol i drafod y pwnc. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ohirio trafod y ddeiseb
tan iddo gael diweddariad pellach. |
|
P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y ddeiseb hon. Datganodd William Powell fuddiant ym mhwnc
y ddeiseb. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth
Leol a Chymunedau yn gofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf ynghylch pryd bydd y gwaith
yn cael ei
gwblhau ac yn amlygu pryderon am yr amser y mae’r
gwaith wedi’i gymryd i’w gwblhau. |
|
P-03-236 Siarter i Wyrion ac Wyresau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ofyn am farn y deisebwr
ar adroddiad interim yr Adolygiad Cyfiawnder
Teuluol a gofyn a fydd hyn yn
mynd i’r afael â’r pryderon
a godwyd yn y ddesieb. ·
Ysgrifennu at fudiad Families Need Fathers yn gofyn ei
farn am y ddeiseb. ·
Ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog
Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
i ofyn am wybodaeth am y dystiolaeth a roddodd i’r Adolygiad Cyfiawnder
Teuluol. |
|
P-03-256 Trenau Ychwanegol i Abergwaun Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Gau’r ddeiseb ac ysgrifennu
adroddiad cloi arni. |
|
P-03-263 Rhestru Parc y Strade Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y ddesieb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn ei
farn am y ddeiseb ac i egluro a fydd y Bil Diogelu Treftadaeth
arfaethedig yn mynd i’r afael
â rhai o’r materion ehangach sydd wedi codi
wrth i’r ddesieb hon gael
ei thrafod, a hynny mewn perthynas
â diogelu lleoliadau ac adeiladau o ddiddordeb lleol a chenedlaethol. |
|
P-03-271 Ardrethi Busnes yn Arberth Dogfennau ategol:
|
|
P-03-286 Ardrethi Busnes Ceredigion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf i’r desisebau hyn. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at y Ffederasiwn Busnesau Bach i ofyn am ei farn am y ddeiseb. · Ysgrifennu at y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i ofyn a all ddatgan, wth ymateb i’r Pwyllgor, a fyddai’n fodlon i ddadansoddiad gael ei gynnal fel yr amlinellir yng ngohebiaeth y Pwyllgor. |
|
P-03-288 Strategaeth Genedlaethol ar Fyw’n Annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Wahodd y Dirprwy Weinidog
Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
i roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor.
|
|
P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y wybodaeth hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at y Pwyllgor perthnasol
ar ôl i strwythur
y pwyllgorau gael ei sefydlu i ofyn
iddo a fyddai’n ystyried cynnal ymchwiliad i’r mater. |
|
P-03-293 Adolygu Cod Derbyn i Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunoddy Pwyllgor i: ·
Gau’r ddesieb ac ysgrifennu
adroddiad cloi cryno arni. |
|
P-03-294 Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru - cynrychioli menywod Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am eu sylwadau
ar yr ymateb
a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid a gofyn iddynt a ydynt yn bwriadu
cyflwyno cais i gael eu hariannu.
|
|
P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau
Arbenigol Cymru yn gofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf am y cynllun
2011/12 ac i ofyn a yw gwasanaethau adsefydlu niwrolegol yn rhan
o’r cynllun hwn. |
|
P-03-298 Cyllid ar gyfer darparu adnoddau Cymraeg ar gyfer pobl â dyslecsia yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y deiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg
a Sgiliau i ofyn sut y rhoddir ystyriaeth
i sicrhau bod deunyddiau cyfrwng Cymraeg ar gael,
mynegi pryderon y deisebwyr a gofyn am roi blaenoriaeth i ymdrin â’r mater. |
|
P-03-301 Cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf i’r ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ofyn am sylwadau’r deisebwr
am y wybodaeth a gasglwyd hyd yn hyn. ·
Ysgrifennu at y Pwyllgor perthnasol
ar ôl i strwythurau’r
pwyllgorau gael
eu sefydlu a gofyn a fyddant yn ystyried cynnal
ymchwiliad i’r mater hwn. |
|
P-03-302 Ffatri prosesu compost Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y ddesieb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ofyn am sylwadau’r deisebwr
am yr ohebiaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
a gofyn a yw lefelau’r arogleuon
drwg wedi gwella. |
|
P-03-308 Achub Theatr Gwent Dogfennau ategol: |
|
P-03-311 Theatr Spectacle Dogfennau ategol: |
|
P-03-314 Achub Theatr Powys a Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y deisebau hyn. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ofyn am farn y deisebwr
am yr ohebiaeth gan Gyngor Celfyddydau
Cymru. ·
Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i ofyn am ei sylwadau
am y ddeiseb, am gadernid Adolygiad Buddsoddiad Cyngor Celfyddydau Cymru ar y mater penodol hwn ac a oedd unrhyw ystyriaeth
wedi’i rhoi i adolygu’r broses a’r penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â theatr mewn addysg. ·
Pwyso ar Gyngor
Celfyddydau Cymru am gopi o gynllun
busnes yr Adroddiadau Asesu ar gyfer pob
un o’r wyth cwmni theatr mewn
addysg. |
|
P-03-316 Dylid gosod yr angen i gynnal hebryngwyr croesfannau ysgol sy’n bodoli eisioes yn amod o Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynghorau lleol na ellir mo’i newid. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y wybodaeth ddiweddaraf am
y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ofyn am farn y Gweinidog
Llywodraeth Leol a Chymunedau am y ddeiseb hon. |
|
P-03-318 Gwasanaethau Mamolaeth Trawsffiniol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddesieb hon. Datganodd William Powell fuddiant
yn y maes
cysylltieidig o amseroedd ymateb ambiwlansys. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd
Lleol Powys a Chyngor Iechyd Cymuned Trefaldwyn i ofyn am eu sylwadau ar
y materion sy’n deillio o’r ddeiseb
ac am fanylion am eu cyfraniad at y broses ymgynghori. |
|
P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. Camau i’w cymryd Cytunodd y Pwyllgor i: ·
Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn goyn am ei
sylwadau ar y ddeiseb. ·
Gwahodd y deisebwyr i gyflwyno
tystiolaeth lafar. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod. |