P-04-324 Dywedwch Na i Tan 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel yn difetha ein cymuned
Geiriad y ddeiseb:
Mae ‘Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Ynni Adnewyddadwy (2005)’ yn darparu cyngor a chanllawiau sydd, heb amheuaeth, yn arwain at halogi
cefn gwlad prydferth canolbarth Cymru. Bydd dilyn
y canllawiau hyn yn difetha ein
tirwedd brydferth; yn cynyddu’r perygl
i iechyd a achosir gan belydriad electromagnetig;
yn niweidio twristiaeth, sef un o’r prif
sectorau cyflogaeth; yn datbrisio adeiladau
ac yn achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd.
Pan gyhoeddwyd y nodyn
cyngor technegol, a elwir yn TAN 8 yn aml, gan
Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2005, nid oedd y boblogaeth
leol yn amgyffred
i ba raddau y byddai’n effeithio ar drigolion canolbarth
Cymru.
Bydd Nodyn Cyngor Technegol 8 yn caniatáu i gannoedd
o dyrbinau gwynt gael eu hadeiladu yn ein
cymunedau.
O ganlyniad i adeiladu’r
ffermydd gwynt hyn, bydd rhaid
i’r Grid Cenedlaethol osod llinellau trawsyrru pŵer i gludo’r pŵer i le bydd ei angen,
er ein bod yn cydnabod nad yw Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn rhan o’r broses o benderfynu ar osod
y llinellau pŵer hyn.
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymgymryd ag adolygiad sylweddol o bolisi TAN
8 a fydd yn cynnwys mwy o ymgynghori
â’r cyhoedd.
Prif ddeisebydd:
John Day
Nifer y deisebwyr:
3249 (mae deisebau cysylltiol wedi casglu oddeutu 13,500 o lofnodion)
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014