P-03-301 Cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi
isod, yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau y rhoddir yr un gefnogaeth
a chymorth uniongyrchol i’r gymuned drawsrywiol
ag a roddir i gymunedau tebyg, fel y grwpiau cymorth
ar gyfeiriadedd rhywiol, i hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer y gymuned drawsrywiol ac ymwybyddiaeth ohoni.
Prif ddeisebydd:
Transgender Cymru
Nifer y deisebwyr:
113
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau