P-04-326 Na i losgyddion
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i bwyso ar Lywodraeth
Cymru i ddiwygio ei bolisi cynllunio
a’i bolisi ynghylch gwastraff gweddilliol er mwyn cael rhagdybiaeth
yn erbyn adeiladu llosgyddion, gan eu bod yn
gyrru’r rhan fwyaf o garbon o wastraff i mewn i’r awyr ar
ffurf carbon deuocsid, yn rhyddhau gronynnau
mân iawn a allant fod yn
beryglus i iechyd y cyhoedd, ac yn creu lludw gwenwynig.
Credwn fod llosgyddion yn wael i’r
amgylchedd ac yn wael i bobl.
Prif ddeisebydd:
Cyfeillion y Ddaear Cymru (Mae deiseb gysylltiedig ;
‘Rydym yn galw ar y Cynulliad
Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn
anghyfreithlon, erbyn 2020,
i losgi gwastraff y gellir ei ailgylchu
a fyddai’n hybu cynghorau i ailgylchu,’ a gynigiwyd gan Terry Evans wedi casglu 13,286 o lofnodion)
Nifer y deisebwyr:
1299
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;