P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove
Geiriad y ddeiseb:
Gofynnwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru:
1. Gynghori Ymddiriedolaeth
GIG Caerdydd a’r Fro i
Ddarparu digon o le parcio ar y safle
ar gyfer staff ac ymwelwyr trwy gael
ardaloedd addas ar gyfer parcio
i’r ysbyty ar y safle ac ar
dir fel yr
ardal ddiffaith i’r gogledd o’r
rhandiroedd gyferbyn ag Ysbyty’r Mynydd
Bychan ar yr ochr arall
i Eastern Avenue,
Datganoli rhai o’r gwasanaethau sydd eisoes ar
safle’r Mynydd Bychan a
Pheidio â gwerthu tir ysbytai yng
Nghaerdydd a’r ardal gyfagos ar
gyfer tai.
2. Argymell bod Cyngor
Sir Caerdydd yn
Gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer
datblygu pellach ar safle Ysbyty’r
Mynydd Bychan oni bai bod uned
yn cael ei
symud o’r safle, a fydd â’r
un effaith ar draffig
Peidio â chefnogi datblygiadau amlfeddiannaeth yn yr ardal
a
Chyflwyno system parcio am gyfnod cyfyngedig yn y strydoedd sydd o fewn pellter
cerdded i Ysbyty’r Mynydd Bychan
3. Ystyried o fewn y Cynulliad, cyflwyno system
a fyddai’n caniatáu i grwpiau lleol apelio
i’r Cynulliad pan fydd y cyngor yn
rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer
datblygiad y mae’r trigolion yn ystyried
a fydd yn gwaethygu’r broblem barcio yn yr
ardal.
Prif ddeisebydd:
Cllr Ron Page
Nifer y deisebwyr:
500+
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Dogfennau