P-04-320 Polisi Tai Cymdeithasol
Geiriad y
ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru
i adolygu ei bolisi tai cymdeithasol mewn perthynas â phoblogaeth frodorol y
wlad.
Gwybodaeth ategol: Gyda phroblemau tai parhaus yng Nghymru, mae’r
ymgyrch hon yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i gydnabod y ffaith hon a
chymryd camau trwy adolygu’r polisi tai cymdeithasol mor fuan â phosibl. Rydym
yn credu bod y polisi presennol yn gwahaniaethu yn erbyn pobl frodorol Cymru ar
ystod eang o faterion ac rydym yn credu hefyd y dylai pobl leol gael mynegi
barn ynghylch pwy sy’n meddiannu unrhyw lety cymdeithasol gwag yn eu
hardaloedd.
Mae ar bobl Cymru wir angen eich help ar y mater hwn a bydd llofnodi’r
ddeiseb hon ac annog eraill i’w llofnodi yn mynd yn bell iawn tuag at roi cyfle
gwell iddynt allu galw rhywle’n ‘gartref’.
Prif
ddeisebydd:
Adam Brown
Nifer y
deisebwyr:
45
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;