P-04-323 Achubwch ein hysgolion bach
Geiriad y
ddeiseb:
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru gefnogi ysgolion bach ac yn
benodol i gefnogi cynghorau er mwyn iddynt gadw ysgolion bach ar agor. Rydym yn
credu bod ysgolion bach yn galon cymunedau gwledig, yn hanfodol i helpu’r iaith
Gymraeg i oroesi, ac, uwchlaw bob dim, yn ganolfannau o ragoriaeth academaidd
i’n plant. Rydym yn gofyn bod y
Cynulliad yn ailystyried sut mae’n defnyddio meini prawf y Comisiwn Archwilio i ddynodi ysgolion
fel rhai bach, a’r ffordd y mae’n dewis ariannu adeiladau newydd yn hytrach nag
ailnewyddu hen adeiladau.
Prif
ddeisebydd:
Leila Kiersch
Nifer y
deisebwyr:
244
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;