P-03-318 Gwasanaethau Mamolaeth Trawsffiniol
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni
sydd wedi llofnodi isod yn
nodi’r cynnig i symud yr uned
famolaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol, yr uned gofal dwys
i’r newydd-anedig a’r uned plant i gleifion mewnol o Ysbyty Brenhinol Amwythig i Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn Telford.
Rydym yn credu y byddai hyn yn
achosi llawer o galedi a straen i gleifion a’u teuluoedd
sy’n teithio o Sir Drefaldwyn. Byddai’n ychwanegu 20 munud
at daith sydd eisoes yn cymryd
50 munud ar y gorau, ac mae’n anochel y bydd amseroedd ymateb ambiwlansys yn cynyddu’n sylweddol.
Mae’n hanfodol nad yw’r
cynigion hyn yn cael eu
hystyried ar wahân i’r cynigion
yng Nghymru a bod Llywodraeth Cymru’n mabwysiadu dull strategol o ymdrin â materion iechyd trawsffiniol, er mwyn sicrhau
bod anghenion cleifion o ganolbarth Cymru yn cael eu
hystyried yn llawn mewn unrhyw
gynigion o ran ysbytai dalgylch.
Felly, rydym yn galw ar y Cynulliad
Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i ymwneud yn llawn
â’r broses ymgynghori
‘Keeping it in the County’, er mwyn
sicrhau nad
yw cleifion o ganolbarth Cymru o dan anfantais o ganlyniad i unrhyw newidiadau.
Prif ddeisebydd:
Mrs Helen Jervis
Nifer y deisebwyr:
164
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Dogfennau