P-03-298 Cyllid ar gyfer darparu adnoddau Cymraeg ar gyfer pobl â dyslecsia yng Nghymru

P-03-298 Cyllid ar gyfer darparu adnoddau Cymraeg ar gyfer pobl â dyslecsia yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ariannu Dyslecsia Cymru fel y gall y mudiad ddatblygu rhai o’r adnoddau a  argymhellir yn Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu (Gorffennaf 2008 a’r adroddiad dilynol ym mis Hydref 2009) 'Cymorth i bobl â Dyslecsia yng Nghymru’, gan gynnwys prawf sgrinio Cymraeg, adnoddau pwrpasol a phriodol Cymraeg ac hefyd cyllido costau llinell gymorth rhadffôn Dyslecsia Cymru.

 

Prif ddeisebydd:
Dyslecsia Cymru

 

Nifer y deisebwyr:
151

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Dogfennau