P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig
Geiriad y
ddeiseb:
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru
i annog Llywodraeth Cymru i gydnabod ac i ddarparu gwasanaethau ar gyfer
adsefydlu plant sydd wedi cael anafiadau i’r ymennydd. Ar hyn o bryd nid oes
cyfleuster yng Nghymru i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn. Er gwaetha’r
ffaith bod ysbyty benodol ar gyfer plant yn cael ei hadeiladu yng Nghaerdydd,
nid oes darpariaeth o hyd wedi’i chynnwys yng nghynllun yr ysbyty hwnnw.
Prif
ddeisebydd:
Kyle's Goal
Nifer y deisebwyr:
1. (Casglodd deiseb gysylltiedig 9128 o lofnodion.)
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Dogfennau