Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Rhys ab Owen AS.

 

13.30-13.35

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)109 - Rheoliadau Traffordd yr M48 (Ffyrdd Ymadael tua'r Dwyrain a thua'r Gorllewin yng Nghyffordd 2 (Cylchfan Newhouse), Cas-gwent) (Terfyn cyflymder o 40 mya) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

2.2

SL(6)111 - Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Disgyblion Ysgol Anabl) (Cymru) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

2.3

SL(6)113 - Rheoliadau Ffederasiwn Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

13.35-13.45

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

3.1

SL(6)102 - Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarniadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.2

SL(6)110 - Rheoliadau Cynghorau Cymuned Cymwys (Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol) (Cymwysterau Clercod) (Cymru) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

3.3

SL(6)104 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 4) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.4

SL(6)112 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 5) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.5

SL(6)117 - Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 4) (Cymru) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.6

SL(6)120 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 24) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.7

SL(6)125 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 26) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.8

SL(6)106 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 4) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

3.9

SL(6)105 – Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.10

SL(6)108 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.11

SL(6)118 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.12

SL(6)124 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.13

SL(6)122 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

 

13.45-13.50

4.

Offerynnau a ystyriwyd yn flaenorol i’w sifftio ac sy’n awr yn destun craffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3

4.1

SL(6)107 - Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

13.50-13.55

5.

Fframweithiau cyffredin

5.1

Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer organau, meinweoedd a chelloedd (ar wahân i embryonau a gametau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Fframwaith Cyffredin dros dro, a bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â nifer o faterion yn ymwneud â’r Fframwaith hwn a’r Fframwaith Cyffredin dros dro ar Ddiogelwch ac Ansawdd Gwaed, a ystyriwyd o dan Eitem 5.2.

 

5.2

Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer ansawdd a diogelwch gwaed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Fframwaith Cyffredin dros dro.

 

5.3

Gohebiaeth â Phwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ’r Arglwyddi: Craffu ar y Rhaglen Fframweithiau Cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â Phwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷr Arglwyddi mewn perthynas â’r Rhaglen Fframweithiau Cyffredin.

 

13.55-14.00

6.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

6.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a’i fod wedi’i anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol.

 

14.00-14.10

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol.

 

7.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb i adroddiadau’r Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

7.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

7.4

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 

7.5

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, i’w adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau.

 

7.6

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, i’w adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau.

 

7.7

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

 

7.8

Gohebiaeth gan Gomisiwn y Gyfraith: Adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Dribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiwn y Gyfraith.

 

7.9

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

 

7.10

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rhestrau Gwledydd Cymeradwy (Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Nododd y Pwyllgor hefyd fod y llythyr, a’r rhai a ystyriwyd o dan Eitem 7.11 ac Eitem 7.12, wedi’u hanfon yn unol â thelerau’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol a adnewyddwyd yn ddiweddar rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru.

 

7.11

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

 

7.12

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mesurau Dros Dro) (Coronafeirws) (Diwygio) (Rhif 3) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

 

7.13

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Brif Weithredwr a Chlerc Comisiwn y Senedd: Defnydd o'r term BAME

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Brif Weithredwr a Chlerc Comisiwn y Senedd.

 

7.14

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Protocol ar graffu ar reoliadau sy’n deillio o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog ac, yn breifat, cytunodd i drafod y dull a nododd o ystyried rheoliadau a wneir gan Lywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, gan gynnwys y rheoliadau hynny a gwmpaswyd yn flaenorol yn y Protocol, yn ei gyfarfod nesaf.

 

14.10

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

14.10-14.30

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16. Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar y Memorandwm, a chytunodd arno, a nododd y byddai'r adroddiad yn cael ei osod cyn 5pm.

 

14.30-14.50

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd. Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memoranda, gan nodi bod memorandwm atodol pellach wedi'i osod y dydd Gwener blaenorol (a ystyriwyd o dan Eitem 12), a chytunwyd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

 

14.50-14.55

11.

Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 13 Rhagfyr 2021 - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y cytundebau rhyngwladol a ystyriwyd yn ei gyfarfod ar 13 Rhagfyr 2021, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai copi o’i adroddiad yn cael ei roi i aelodau Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi.

 

14.55 - 15.05

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 4) fel rhan o'i drafodaeth o dan Eitem 10.