Cytundebau rhyngwladol

Cytundebau rhyngwladol

Cefndir

 

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sy’n gyfrifol am fonitro'r broses yn y Chweched Senedd o weithredu cytundebau rhyngwladol nad ydynt yn ymwneud â masnach.

 

Gall cytundebau rhyngwladol a lofnodwyd gan Lywodraeth y DU ymdrin â materion sydd o fewn cymhwysedd datganoledig neu faterion sydd â goblygiadau polisi pwysig i Gymru. Bydd y Pwyllgor yn ystyried effaith cytundebau rhyngwladol a osodwyd yn Senedd y DU ar Gymru o dan y broses a sefydlwyd gan Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010. 

 

Trafodaeth y Pwyllgor

 

Dechreuodd y Pwyllgor drafod cytundebau rhyngwladol a'u goblygiadau i Gymru yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2021. Yn y cyfarfod hwn, cytunodd y Pwyllgor y byddai, lle y bo'n briodol, yn cyhoeddi un adroddiad a fydd yn crynhoi trafodaethau’r Pwyllgor o ran cytundebau rhyngwladol mewn unrhyw un cyfarfod.

 

Mae manylion am ystyriaeth y Pwyllgor o gytundebau rhyngwladol ar gael yn:

 

>>>> 

>>>Cytundebau rhyngwladol mewn perthynas ag addysg

>>>Cytundebau rhyngwladol mewn perthynas ag amddiffyniad

>>>Cytundebau rhyngwladol mewn perthynas â chydweithrediad rhwng systemau barnwrol

>>>Cytundebau rhyngwladol mewn perthynas â diogelwch

>>>Cytundebau rhyngwladol mewn perthynas â diplomyddiaeth

>>>Cytundebau rhyngwladol mewn perthynas â hawliau dynol

>>>Cytundebau rhyngwladol mewn perthynas â materion morol

>>>Cytundebau rhyngwladol mewn perthynas â nawdd cymdeithasol

>>>Cytundebau rhyngwladol mewn perthynas â thrafnidiaeth

>>>Cytundebau rhyngwladol mewn perthynas â safonau llafur

>>>Cytundebau rhyngwladol mewn perthynas ag ymchwil

>>>Cytundebau rhyngwladol mewn perthynas ag ynni

<<<< 

 

Cyhoeddwyd ein hadroddiad diweddaraf ar 21 Chwefror 2024.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/09/2021

Dogfennau