Fframweithiau Cyffredin - Y Chweched Senedd
Fframweithiau Cyffredin - Y Chweched Senedd
Yn dilyn
penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, cytunodd Llywodraeth y DU a'r
llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i greu
dulliau gweithredu cyffredin ledled y DU – neu 'fframweithiau' – mewn meysydd
polisi a lywodraethwyd ynghynt gan gyfraith yr UE, ond sydd o fewn cymhwysedd y
llywodraethau neu'r deddfwrfeydd datganoledig.
Ar 16 Hydref
2017, cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) hysbysiad
(PDF, 71.8KB) a oedd yn nodi'r egwyddorion a fyddai'n sail i’r fframweithiau.
Ar 25 Ebrill
2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU Gytundeb
Rhynglywodraethol (PDF, 125KB) ar Fil Ymadael yr UE (Deddf Ymadael yr UE
2018 erbyn hyn) a’r broses o sefydlu fframweithiau cyffredin. Mae'r Cytundeb yn
caniatáu i ddeddfwrfeydd datganoledig ddeddfu ar unrhyw feysydd sydd o fewn eu
pwerau. Fodd bynnag, roedd hefyd yn rhoi cyfyngiadau ar 24 o feysydd
datganoledig, a oedd yn destun trafodaeth. Roedd y Cytundeb hefyd yn nodi’r
trefniadau gwleidyddol mewn perthynas â chreu fframweithiau cyffredin deddfwriaethol.
Roedd y Ddeddf
hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gyflwyno adroddiad i Senedd y
DU ar faterion amrywiol sy'n ymwneud â fframweithiau cyffredin, a'r defnydd o
bwerau adran 12 yn Neddf 2018 i gynnal dros dro y cyfyngiadau o ran cymhwysedd
datganoledig a geir yng nghyfraith bresennol yr UE. Ceir gwybodaeth am
adroddiadau a osodwyd yn y Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 30B yn Adroddiadau mewn cysylltiad â
chyfyngiadau cyfraith yr UE a ddargedwir.
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r rhaglen fframweithiau
cyffredin yn y Chweched Senedd, a bydd Pwyllgorau'r Senedd*
yn trafod fframweithiau penodol sydd o fewn eu cylchoedd gwaith.
Bydd rhagor o
wybodaeth am drafodaethau Pwyllgorau'r Senedd ynghylch y rhaglen fframweithiau
a fframweithiau unigol ar gael yma, ar dudalen pob Pwyllgor, ac o dan 'Materion
Cysylltiedig' neu 'Cyfarfodydd Cysylltiedig'.
*Yn benodol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd
a Seilwaith; Pwyllgor yr Economi,
Masnach a Materion Gwledig; a'r Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
237 KB) ar fframweithiau cyffredin ar 12 May 2023. Derbyniodd y Pwyllgor ymateb
(PDF 162KB) gan Lywodraeth Cymru ar 22 Mehefin 2023.
Gwaith y Bumed
Senedd ar fframweithiau cyffredin
Ceir gwybodaeth am
y gwaith a wnaed ar fframweithiau cyffredin yn ystod y Bumed Senedd yn Fframweithiau polisi cyffredin y DU –
Y Bumed Senedd. Ceir gwybodaeth am adroddiadau a osodwyd yn y Bumed Senedd
o dan Reol Sefydlog 30B yn Adroddiadau
mewn cysylltiad â chyfyngiadau cyfraith yr UE a ddargedwir.
Math o fusnes:
Statws: Gwrthodwyd
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/11/2021
Dogfennau
- Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adroddiad Fframweithiau Cyffredin PDF 494 KB
- Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i'r Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Fframweithiau Cyffredin - 2 Mawrth 2022 PDF 487 KB
- Llythyr gan y Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Fframweithiau Cyffredin - 15 Chwefror 2022 PDF 162 KB
- Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch fframweithiau cyffredin - 25 Tachwedd 2021 PDF 480 KB
- Llythyr gan Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch fframweithiau cyffredin - 15 Tachwedd 2021 PDF 308 KB
- Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad: Cyfarfod gweinidogol pedairochrog ar Fframweithiau Cyffredin - 8 Tachwedd 2021 PDF 179 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â gwaith craffu pwyllgorau'r Senedd ar fframweithiau cyffredin - 23 Medi 2021 PDF 1 MB
Ymgynghoriadau
- Craffu ar Fframweithiau Cyffredin (Wedi ei gyflawni)