Adroddiadau mewn cysylltiad â chyfyngiadau cyfraith yr UE a ddargedwir

Adroddiadau mewn cysylltiad â chyfyngiadau cyfraith yr UE a ddargedwir

Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gyflwyno adroddiad i Senedd y DU ar faterion amrywiol sy'n ymwneud â fframweithiau cyffredin, a'r defnydd o bwerau adran 12 i gynnal terfynau cyfraith presennol yr EU ar gymhwysedd datganoledig dros dro, a hynny ar ôl diwedd pob cyfnod o dri mis, gan ddechrau gyda'r tri mis o Gydsyniad Brenhinol y Ddeddf.  Hefyd, mae’n rhaid rhannu'r adroddiadau gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau yr un lefel o waith craffu datganoledig. Mae Rheol Sefydlog 30B.11 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru osod gerbron y Senedd gopi o unrhyw adroddiad o'r fath a ddarperir i Weinidogion Cymru.

Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/11/2018

Dogfennau